Nod y Prosiect

Mae prosiect Good Gate Media yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu ar gyfer adrodd straeon rhyngweithiol ac effeithiau gweledol (VFX). Drwy gyfuno VFX ansawdd uchel gyda rendro cyfrifiadurol mewn amser real, yr amcan yw lleihau costau cynhyrchu'n sylweddol drwy adeiladu setiau ffotoreal mewn cyfrifiadur yn hytrach na defnyddio arteffactau ffisegol. Ar gyfer setiau ar raddfa fwy (e.e. palas, amffitheatr neu long ofod) gallai'r dull hwn wella gwerthoedd cynhyrchu'n ddramatig ar gyllidebau bach, cyfoethogi profiad y gynulleidfa a rhoi min cystadleuol i'r cynhyrchydd yn y farchnad fyd-eang.

Good Gate Media