Nod rhaglen Clwstwr (2018-2023) oedd rhoi arloesedd wrth wraidd cynhyrchu cyfryngau yn Ne Cymru - gan symud sector cyfryngau Cymru o nerth i arweinyddiaeth.
Creodd Clwstwr nifer o weithgareddau ac ymyriadau, gan fuddsoddi i 118 o brosiectau arloesedd yn niwydiannau creadigol Cymru a'u cefnogi.

Clywch beth sydd gan ein prosiectau i’w ddweud am eu hymchwil a’u datblygiad (Y&D):

Gallwch ddarganfod mwy am ein prosiectau yma
Daeth adroddiad yn mesur effaith y rhaglen i’r casgliad fod y prosiectau a ariannwyd gan Clwstwr wedi cyfrannu'n uniongyrchol at dros £20 miliwn o drosiant ychwanegol a chreu mwy na 400 o swyddi ychwanegol yn y diwydiannau creadigol. Rhwng 2019 a 2022, cyfrannodd Clwstwr £1 ym mhob £13 o dwf trosiant blynyddol yn niwydiannau creadigol Cymru.

Darllenwch yr adroddiad effaith yma

Roedd Cynaladwyedd Amgylcheddol a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn rhan annatod o Clwstwr. Gallwch ddarllen am ein gwaith yn y meysydd hyn yma yn ogystal â’r hyn a gyflwynwyd gan y rhaglen ar lwyfan rhyngwladol ac yn arbenigedd Newyddiaduraeth Newyddion.