Cyhoeddwyd enillwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig mewn seremoni ddisglair yn Neuadd Dewi Sant neithiwr (13 Hydref). Cyflwynwyd y noson gan gyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens.

Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth o ran darlledu a chynhyrchu ym myd ffilmiau, gemau a theledu yng Nghymru ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau creadigol.

Bait Studio enillodd y wobr am Effeithiau Arbennig a Gweledol, a noddwyd gan Bomper Studio, ac fe gipion nhw’r wobr am eu gwaith ar gyfer Apostle

Dywedodd, Peter Rogers, Rheolwr Gyfarwyddwr Bait Studio: “Rydyn ni’n hynod o falch o fod wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am ein gwait effeithiau gweledol ar Apostle.

“Roedd y ffilm yn cyflwyno rhai heriau cymhleth creadigol a thechnegol, yn enwedig gyda’r dilyniant hir â’r winwydden, ac mae derbyn gwobr am ein cynhyrchiad Netflix cyntaf yn meddwl y byd”

Mae prosiect Bait Studio a ariennir gan Clwstwr yn edrych ar greu platfform newydd ar gyfer rheoli cynyrchiadau. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yma.

Wales Interactive enillodd y wobr yn y maes Gemau am yr ail flwyddyn yn olynol gyda’u gêm Time Carnage VR.

Mae tîm Wales Interactive yn chwarae rhan ym mhrosiect Clwstwr Good Gate Media, Rendro mewn Amser Real / Hyrwyddo Rhyngweithiol.

Fe aeth y wobr am Gyfraniad Eithriadol i Deledu i Lynwen Brennan, Rheolwr Cyffredinol Lucasfilm. Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb gyda Lynwen y llynedd, mae modd gwylio hynny yma.

Bethan Jones enillodd Gwobr Siân Williams, Celyn Jones enillodd y wobr Actor am ei berfformiad mewn Manhunt a Gabrielle Creevy cipiodd y wobr Actores am ei pherfformiad yn In My Skin. Yn fuddugol yn y maes Ffilm Nodwedd/Deledu oedd Last Summer ac yn y maes Drama Deledu, In My Skin ddaeth i’r brig.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:

“Mae’r dalent aruthrol yn y diwydiant ffilm, gemau a theledu yn parhau i ragori ar draws yr holl feysydd crefft, perfformio a chynhyrchu a gynrychiolir yn ein Gwobrau. Bu’n galonogol gweld yr ymgysylltiad mwyaf erioed o ran nifer y ceisiadau a dderbyniwyd eleni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’r enwebeion a’r enillwyr i gynnig cyngor ac ysbrydoliaeth i’r rhai sy’n awyddus i weithio yn y meysydd hyn trwy ein rhaglen ddigwyddiadau a gynhelir drwy gydol y flwyddyn”

Gallwch weld y rhestr lawn o enillwyr BAFTA Cymru yma