Nod y Prosiect

Bait Studio logo

Sut gallai platfform rheoli cynhyrchu safonedig helpu stiwdios bach ym maes dylunio effeithiau gweledol/symud i weithio'n fwy effeithlon a chystadlu'n haws gyda'u cymheiriaid mwy o faint a chaniatáu i stiwdios weithio o bell?  Ceir amrywiaeth o ddatrysiadau meddalwedd rheoli cynhyrchu parod ar y farchnad, ac yn aml mae angen i stiwdios gyfuno gwahanol blatfformau nad ydyn nhw'n siarad â'i gilydd i gael datrysiad cyflawn. Bydd Bait Studio yn archwilio dichonoldeb datrysiad sy'n cyfuno cymwysiadau meddalwedd sydd eisoes yn bodoli mewn ffyrdd newydd i fynd i'r afael â'r her hon.