Dros gyfnod o 15 mlynedd ei yrfa, mae'r awdur sgrin Robert Evans wedi gweld newidiadau mawr yn y diwydiant teledu a ffilm. Mae wedi gweithio ar bopeth o gyfresi comedi i weithiau byrrach ar gyfer teledu plant, gyda chredydau'n cynnwys Stella (Sky One) a enillodd BAFTA, EastEnders (BBC) a Secret Life of Boys (ABC/BBC) a enwebwyd am EMMY. Gyda’i brofiad eang, mae'n ymwybodol iawn o'r ffordd y mae'r rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ffrydio wedi effeithio ar ymddygiad y gynulleidfa.

"Er gwaethaf y miliynau o bunnoedd a'r egni aruthrol sy'n rhan o greu sioe deledu, y dyddiau hyn gall niferoedd gwylwyr rhaglen fod yn llai na rhywun sy'n creu cynnwys byr am ddim ar TikTok yn eu hystafell wely. Roeddwn i'n cadw meddwl am y sefyllfa gan synied tybed a oedd yna gyfle i uno'r ddau fyd drwy greu drama naratif wedi'i hanelu at bobl 16-24 oed i'w gosod ar y cyfryngau cymdeithasol."

Cysylltodd Robert a'i ffrind Eirlys Bellin â Clwstwr gyda syniad i ddefnyddio model cynhyrchu teledu i greu cyfres ddrama ffurf-ficro ar draws sawl llwyfan. Dyfarnwyd cyllid sbarduno iddyn nhw gynnal ymchwil a datblygu a lluniwyd cynllun tair rhan. Yn gyntaf, roedd angen ymchwilio'r farchnad i weld beth sydd eisoes yn bodoli o ran drama ar y cyfryngau cymdeithasol a phwy yw'r enwau mawr. Nesaf, bydden nhw'n cwrdd â chwmnïau sydd naill ai'n creu cynnwys o'r fath neu fyddai a diddordeb mewn gwneud hynny. Yn olaf, bydden nhw'n archwilio cynnwys, gan gynnwys ei botensial a rhoi cynnig arno. Ond aeth pethau ddim yn ôl y gobaith.

"Siaradon ni gyda chwmnïau technoleg a ddywedodd ei bod yn bosibl ei wneud yn dechnolegol, ac y gallen nhw adeiladu ap i ni i'w gwneud yn haws gollwng cynnwys ar wahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Yna fe siaradon ni gyda chrewyr cynnwys, a dyna pryd y sylweddolon ni fod ysgrifennu ar gyfer y ddemograffeg honno'n wahanol iawn i ysgrifennu sgriptiau cyfresi teledu. Mae cymaint mwy o lais yr awdur yn un peth; pan fyddwch chi'n  mynd ar TikTok neu Instagram, mae'r cyfan yn seiliedig ar bersonoliaeth. Pwysleision nhw hefyd nad oes unrhyw esboniad pam fod cynnwys yn profi'n boblogaidd, felly mae'n rhaid rhoi cynnig arni dro ar ôl tro.

"Roeddwn i'n meddwl y gallen ni ddefnyddio ein pennau teledu i wneud hyn, felly penderfynon ni roi cynnig arni. Ysgrifennon ni sgript, a'i fireinio gyda grŵp ffocws a ddechreuodd rannu darnau o'r cynnwys ar-lein. Profodd rhywfaint ohono’n boblogaidd gyda phobl yn dangos diddordeb ond pylodd hynny'n gyflym. Sylweddolon ni os nad ydych chi'n creu cynnwys yn ddiddiwedd, gan bostio pob awr neu hyd yn oed pob hanner awr a pharhau i ddatblygu'r stori, byddwch chi'n suddo.

"Mae dylanwadwyr yn ailadrodd eu hunain drwy'r dydd, bob dydd, gan ledaenu'r un neges gan amlaf. Os bydd rhywbeth yn profi'n boblogaidd, fel arfer mae hynny ar hap. Mae pobl sy'n gwneud arian mawr ohono wedi taro ffrwd aur, naill ai ar ddamwain neu am eu bod wedi bod yn cynhyrchu stwff ers blynyddoedd. Maen nhw'n cynhyrchu tunelli o stwff ac yn gweld beth sy'n cydio.

"O safbwynt cynhyrchu teledu, dyw hynny ddim yn gwneud synnwyr. Pan fyddwch chi'n creu rhywbeth ar gyfer y teledu, rydych chi'n anelu at ddemograffeg benodol, sianel neu ffrydiwr i'w ddarlledu ac rydych chi bron yn sicr o gael gwerthiant mewn tiriogaethau penodol. Ar-lein, rydych chi'n nofio neu'n suddo - 100 gwaith bob munud."

Yn ffodus, doedd hi ddim yn anobeithiol. Penderfynodd Robert ac Eirlys ddefnyddio'r hyn roedden nhw wedi'i ddysgu a symud ymlaen mewn ffordd wahanol.

"Dysgon ni fod technoleg yn newid," dywed Robert. “Dywedodd y grwpiau ffocws a’r crewyr cynnwys y siaradon ni â nhw fod oedolion ifanc yn gwylio drama naratif ffurf hir ar lwyfannau ffrydio yn eu hamser sbâr, yn ogystal â chlipiau ar-lein hwyliog, afieithus sy’n boblogaidd am bum munud ac yna’n diflannu. Maen nhw am gael y ddau fath o gynnwys ar wahanol adegau.

“Hefyd, dangosodd y cwmnïau technoleg i ni pa mor anodd yw rhoi cynnwys ar-lein mewn ffordd gydlynol; mae'n rhaid iddyn nhw ddefnyddio gwahanol apiau ar gyfer gwahanol bethau, un i fformatio delweddau, un arall i amseru fideos, un arall i amserlennu ... Felly, meddylion ni am greu ap sy'n siop un stop i bobl sy'n postio cynnwys naratif byr ar-lein neu gynnwys 'rhedfa' - pethau fel trelars ar gyfer sioeau, ffilmiau neu ddigwyddiadau chwaraeon a cherddoriaeth newydd.

“Yr hyn sy’n gyffrous yw ein bod wedi gweld bwlch yn y farchnad a chael adborth gan bobl wych yn y diwydiant i’w gefnogi. Wn i ddim sut i adeiladu ap, felly rydyn ni'n gweithio gyda chwmni gwych o'r enw Big Lemon sy'n gallu gweld sut i fynd ati. Dros y mis neu ddau nesaf byddwn yn ailystyried ac yn edrych sut i fynd ymlaen, ond gallaf i weld bod yma lawer o botensial i grewyr cynnwys, pobl sy'n gyfrifol am gyhoeddusrwydd, cyfryngau chwaraeon a thu hwnt. Mae wedi bod yn ffordd ddiddorol o fod yn rhan o'r farchnad honno, gan fynd ati i ddatblygu ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a chyflawni rhywbeth drwyddo, ac rwy'n edrych ymlaen at weld i ble'r awn ni nesaf."