Ynglŷn â Small and Clever Productions
Mae Small and Clever yn gwmni cynhyrchu teledu sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Mae'n cynhyrchu rhaglenni ar gyfer teledu a radio. Yn fwyaf diweddar, mae wedi defnyddio cynhyrchu rhithwir a thechnoleg gysylltiedig i wella ei allbynnau.

Roeddem wedi bod yn defnyddio technoleg newydd, sef cynhyrchu rhithwir, i wneud rhaglen deledu
Gwnaethom gyfres chwe rhan o'r enw Age of Outrage. Mae'n sioe sgetshis comedi ar y BBC sy'n edrych ar fywyd modern. Gwnaethom ddysgu ein hunain sut i ddefnyddio Unreal Engine ar gyfer cynhyrchu rhithwir fel y gallem ddefnyddio setiau rhithwir mewn stiwdio sgrin werdd, yn hytrach na gorfod defnyddio llawer o wahanol leoliadau ffisegol. Oherwydd ein hamserlen roeddem yn recordio hyd at bum sgetsh rai dyddiau, a oedd yn golygu pedwar neu bum lleoliad. Fel arfer, ni fyddech yn gallu gwneud hyn oherwydd yr holl deithio rhwng lleoliadau, ond yn y stiwdio gall y set newid wrth glicio botwm.
 
Cynhyrchu rhithwir yn ehangu posibiliadau sgrin werdd
O ganlyniad i ddatblygiadau mwy diweddar, mae gennych bellach yr opsiwn o gysylltu eich camera ffisegol â'r set rithwir. Wrth i chi symud y camera ffisegol, mae'r set yn symud gydag ef mewn persbectif. Gallwch weld y symudiadau'n fyw hefyd, felly gall actorion sy'n sefyll yn yr ystafell sgrin werdd weld eu hunain yn y set rithwir ar fonitor. Pan fyddwch chi'n symud y camera, bydd y ffordd y mae'n symud o amgylch yr olygfa yn teimlo fel eich bod chi mewn gwirionedd yn y lle rhithwir. 
 
Pryd bynnag yr oeddwn yn cael cylchlythyr Clwstwr am brosiectau pobl eraill, byddwn yn teimlo fy mod yn colli cyfle
Pan gefais wybod am ddechrau cylch ariannu arall, roeddwn yn meddwl y dylwn wneud cais gan ei fod yn rhywbeth yr oeddwn am fod yn rhan ohono am gyfnod. Roedd yn ymddangos fel cyfle i ddatblygu a gwella ein technegau cynhyrchu rhithwir, ac, yn y tymor hwy, gallai ein galluogi i ddarparu rhyw fath o wasanaeth neu rannu ein hymchwil ag eraill a all elwa.

Cawsom £30,000 o gyllid Clwstwr i'n galluogi i barhau ar ein llwybr
Roeddem am dreulio peth amser i ffwrdd o'r pwysau sydd ynghlwm wrth wneud rhaglen i wella ein technegau a dysgu mwy am y dechnoleg. Mae'r maes hwn mor gyflym ac yn newid trwy’r amser; hyd yn oed yn y pum mis yr oeddem yn ymchwilio ac yn datblygu, rhyddhawyd meddalwedd a datblygiadau newydd gan y cwmnïau mawr sy’n gwneud offer cynhyrchu rhithwir. Roedd yn amser da i fod yn gwneud hyn.

Roedd gennym eisoes stiwdio sgrin werdd, yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, yr oeddem wedi'i gosod ar gyfer Age of Outrage. Y prif gostau ariannol yr oeddem am eu talu oedd costau cadw'r stiwdio honno i fynd tra oeddem yn gwneud yr ymchwil a’r datblygu a'r gost o gyflogi'r ddau gydweithiwr yr oeddwn yn gweithio gyda hwy ar gynhyrchu rhithwir. 

Gwnaethom rannu ein prosiect yn dri nod a redai ochr yn ochr â'n gilydd
Yn gyntaf, roeddem am wella golwg popeth, gan ddefnyddio technegau goleuo gwell a gwell 'allweddu' i wneud i'r delweddau go iawn eistedd yn well o fewn y setrithwir. Trwy addasu'r meysydd hyn, roeddem yn gobeithio gwella'r realaeth.

Yn ail, roeddem am wella'r system dracio a oedd gennym, h.y. sut mae'r symudiadau camera go iawn yn cael eu hadlewyrchu gan gamera rhithwir sy'n symud o fewn y set rithwir. Po fwyaf mae'r setiau go iawn a rhithwir yn 'cydio', y mwyaf credadwy yw'r dadrithiad. 

Yn drydydd, roeddem am wella allbwn y setiau rhithwir i wneud eu golwg yn fwy realistig neu'n ffoto-real. Gyda rhai cynyrchiadau, mae'r allbwn mor dda fel prin y gallech weld a oedd y set yn un go iawn neu’n rhithwir. Roeddem am weld a oeddem yn gallu dod yn agosach at gyflawni hynny. 

Mae'n faes mor fawr, ac eto nid oes llawer o arbenigwyr ar gael y gallem ofyn iddynt am help
Penderfynwyd dysgu ein hunain sut i wneud y pethau a fyddai'n ein galluogi i gyrraedd y tri amcan hyn y byddem wedi'u nodi. Roedd hyn yn cynnwys cyfuniad o dechnegau ymchwilio, arbrofi gyda gwahanol ffyrdd o ddefnyddio'r dechnoleg, newid pethau ar y set ffisegol a rhithwir ac adolygu ansawdd yr allbynnau. 

Byddem yn aml yn mynd i lawr tyllau cwningod gyda'r ymchwil. Er enghraifft, roeddem yn meddwl ein bod wedi dod o hyd i ateb i wella tracio'r camera, felly rhoesom y dull hwnnw ar brawf am ryw wythnos. Yn y diwedd, gwelsom nad oedd yn gweithio mewn gwirionedd. Serch hynny, nid oedd yr wythnos yn wastraff amser; roedd yn ein gorfodi i fynd yn ôl i'n man cychwyn ac ailystyried pethau. Yn ystod y rhan fwyaf o’m bywyd gwaith, rwyf wedi bod yn cynhyrchu cynnwys o fewn terfynau amser tynn, felly roedd yn braf iawn cael rhyddid i roi cynnig ar bethau ac arbrofi.

Gwnaethom fwynhau symud gyda natur gyflym cynhyrchu rhithwir
Gellid galw Epic Games, sy'n gwneud Unreal Engine, yn gwmni aflonyddgar - yn debyg i'r ffordd y mae Uber neu asiantau tai ar-lein wedi newid model eu meysydd busnes. Mae eu meddalwedd yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, hyd yn oed os ydych chi'n ei ddefnyddio ar raglen deledu. Mae trydydd partïon yn cynnig meddalwedd ar gyfer pethau fel calibradu lensys, er enghraifft, sy'n helpu i sicrhau bod eich lens ffisegol yn cyfateb i'r lens yn y peiriant Unreal. Fodd bynnag, mae'n aml yn wir y bydd Epic Games yn rhyddhau eu fersiwn rhad ac am ddim eu hunain o feddalwedd y trydydd parti ychydig amser ar ôl fersiwn y trydydd parti. Yn wir, digwyddodd hyn tra oeddem yn gweithio ar y prosiect, a oedd yn wych i ni! Cawsom yr amser i dreulio ychydig wythnosau yn dysgu sut i ddefnyddio'r feddalwedd newydd, gan geisio darganfod rhywbeth sydd mor newydd nad oedd tiwtorialau YouTube nac arweiniadau adolygu ar-lein hyd yn oed ar gael.

Gwnaethom ddogfennu ein profiadau fel y gallai pobl eraill elwa o'n canfyddiadau
Gwnaethom fideo a oedd yn esbonio ochr dechnegol ein cynhyrchiad a'n proses o ran cynhyrchu rhithwir yn ein stiwdio. Mae cymuned sylweddol ar gael ar gyfer y math hwn o beth. Gadawodd rhai o'r bobl sydd wedi gwylio'r fideo sylwadau i ni i ddweud ei bod yn ddefnyddiol iawn gweld yr hyn roedden ni’n ei wneud a sut. Rydym wedi dysgu llawer o'n sgiliau o diwtorialau YouTube dros y blynyddoedd, felly mae'n braf rhoi rhywbeth yn ôl trwy drosglwyddo ein gwybodaeth ymlaen.

Mae ein prosiect Clwstwr wedi’n galluogi i deimlo'n fwy hyderus wrth rannu ein gwaith
Rydym wedi datblygu llawer o wybodaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at ei ddefnyddio'n dda ar ein comisiwn teledu nesaf. Teimlwn hefyd fod gennym y lefel o arbenigedd i sefydlu cyfleuster stiwdio rhithwir y gallai cwmnïau cynhyrchu eraill ei ddefnyddio, sy'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn pendroni amdano ers tro.

Ynghyd â hyn, rydym wedi rhannu demo o'n gwaith â Phrifysgol De Cymru. Roedd ganddynt ddiddordeb mawr yn yr hyn a welsant, ac mae siawns dda y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn y dyfodol ar gynhyrchu rhithwir. Roedd yr hwb i’n hyder a gawsom drwy ein prosiect Clwstwr yn gwneud hyn yn bosibl.

Mae llawer o sôn am gynhyrchu rhithwir yn y diwydiant teledu ar hyn o bryd. Mae pawb yn gyffrous iawn am y peth, ond mae'n rhywbeth sydd angen arbenigwyr oherwydd ei fod mor dechnegol. Yn ffodus, ni yw'r arbenigwyr erbyn hyn, felly gallem helpu pobl eraill i wneud hynny.