Ynglŷn â Severn Screen

Cwmni cynhyrchu yng Nghaerdydd yw Severn Screen, sy'n arbenigo mewn prosiectau drama teledu a ffilm o'r radd flaenaf. Mae ei gynyrchiadau diweddar yn cynnwys Craith/Hidden (S4C/BBC), The Pembrokeshire Murders (ITV), Apostle (Netflix) a Havoc (Netflix, a fydd yn cael ei ryddhau yn 2023).

Tyfodd ein prosiect Cronfa Her Cymru Werdd o'n gwaith ar Havoc

Severn Screen o Gaerdydd oedd prif gynhyrchwr Havoc. Deuthum yn rhan o’r prosiect yn rhinwedd y rôl Stiward Amgylcheddol, a dyma’r tro cyntaf i Severn Screen gyflogi unigolyn llawn-amser ar gyfer y swydd. Mae'r cwmni – ynghyd â Netflix a’i bartner cynhyrchu, XYZ Films – yn cydnabod pwysigrwydd cofleidio ffyrdd mwy cynaliadwy o wneud ffilmiau – a gweithio tuag at ardystiad Albert Sustainable Production. Roedd pawb yn ymrwymedig o'r cychwyn cyntaf i wneud Havoc mor gynaliadwy â phosibl.

Aethom i weithdy Cymru Werdd cychwynnol pan oeddem ar ganol y gwaith ffilmio

Roedd amseriad Her Cymru Werdd yn ffodus gan ein bod wedi gallu cyflwyno ein cais am gyllid Ymchwil a Datblygu tra oeddem wrthi’n cynhyrchu Havoc. Gwelsom gyfle i ddogfennu a dadansoddi'r gwaith yr oeddem yn ei wneud ar Havoc, ac i nodi dysgu allweddol i'w ddefnyddio ar brosiectau yn y dyfodol.

Dechrau trwy gofnodi llwyddiant ... a methiant.

Gwnaethom yn siŵr ein bod yn creu cofnod cynhwysfawr – fesul adran – o'r cyfan yr oeddem yn ei wneud ar gyfer Havoc. Fel hyn, roeddem yn gallu mesur y cynnydd yr oeddem yn ei wneud yn well, yn ogystal â'r heriau y deuem wyneb yn wyneb â nhw. Nid ydym yn cael y cyfle hwn yn achos pob cynhyrchiad, ond creodd hyn fan cychwyn effeithiol ar gyfer myfyrio a dysgu. Mae hefyd wedi sbarduno sgyrsiau sydd eisoes yn llywio dulliau ar gyfer ein prosiect nesaf!

Yn rhan o'n gwaith, aethom ati i greu nifer o ddeciau cyflwyno i arddangos ein dysgu, ac edrychwn ymlaen at rannu'r rhain â chydweithredwyr a chymheiriaid yn ystod y misoedd nesaf. Gwyddom fod llawer yn y sector yn rhoi datblygiadau pwysig ar waith o ran eu cynaliadwyedd. Trwy weithio gyda'n gilydd, gobeithiwn y gallwn ninnau hefyd chwarae ein rhan yn y broses o adeiladu diwydiant mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Bu i ni sylweddoli pa mor bwysig yw cyfathrebu, ymgysylltu a meithrin arferion

Mae yna ddulliau gwahanol o ymgysylltu â phobl a hyrwyddo cydweithrediad i greu gwell amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Yn rhan o'n gwaith, aethom ati i gasglu straeon gan bobl ar y set i'n helpu i ddeall y modd y mae adrannau penodol yn gweithio, a sut y maent yn mynd i'r afael â'r her o leihau eu hôl troed carbon.

Deall y cyd-destun yr ydym yn gweithio ynddo

Nid yw cynhyrchu yn broses sy’n bodoli ar ei phen ei hun. Mae ein holl waith yn rhan o gyd-destun ehangach – gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae cydnabod bod ein hymdrechion yn rhan o ddarlun ehangach – yma yng Nghymru, ond hefyd yn fyd-eang – yn helpu i roi cymhelliant a ffocws mwy eglur i'n gwaith.

Crensian rhifau – deall y data ynghylch eich allyriadau carbon

Mae cynyrchiadau yn cynhyrchu llawer iawn o ddata – roeddem am ddefnyddio'r data hwn i'n helpu i ddeall ein hôl troed carbon yn well ac i’n cynorthwyo i wneud penderfyniadau amgenach ynghylch cynyrchiadau yn y dyfodol. Mae'n rhoi'r gallu i ni wneud penderfyniadau ymwybodol am y ffordd yr ydym yn gweithio, a hynny trwy ddeall yr effaith a gawn yn well. Rhoddodd prosiect Cymru Werdd y modd i ni ddadansoddi rhywfaint o'r data hwn mewn ffordd ddyfnach, a hynny trwy blatfform dadansoddi data (Power BI).

Adnabod y meysydd yn ein gwaith sy'n cael yr effaith fwyaf ar yr amgylchedd.

Y meysydd a oedd yn cael yr effaith fwyaf ar ein cynhyrchiad oedd trafnidiaeth, llety, y defnydd o ynni ac arlwyo. Trwy gasglu data a defnyddio Power BI, roeddem yn gallu archwilio'r ysgogwyr allweddol hyn mewn mwy o fanylder.  Roeddem yn gallu edrych ar senarios gwahanol, a gweld ar unwaith yr effaith y gallai'r newidiadau hyn ei chael ar ein hôl troed carbon. Mae'n offeryn defnyddiol iawn, ac yn un yr ydym ’nawr yn gobeithio ei ddefnyddio ar gyfer cynyrchiadau yn y dyfodol.

Defnyddio data i lunio naratifau newydd

Roedd y dadansoddiad o’r data hefyd yn ein galluogi i ddelweddu effaith ein gwaith, gan ein helpu i 'weld' sut y gallai'r penderfyniadau a wnawn leihau ein hôl troed carbon. Er enghraifft, yn achos llety, byddem bob amser yn ceisio rhoi blaenoriaeth i logi lle gyda darparwyr a oedd yn defnyddio ynni adnewyddadwy. Nid oedd yr wybodaeth hon ar gael bob amser, yn enwedig yn achos nifer o fflatiau a oedd yn cael eu rhentu’n breifat. Fodd bynnag, pe byddem wedi llogi pob llety mewn man a oedd yn defnyddio ynni adnewyddadwy 100%, bu i ni allu defnyddio'r offeryn i ddangos maint yr effaith y byddai hyn yn ei gael o ran gostwng ein hallyriadau carbon. Rydym wedyn yn gallu defnyddio'r data hwn i ymgysylltu â darparwyr lleol. Mae'n helpu i ddangos ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif hefyd, ac yn annog perchnogion eiddo i newid i ynni adnewyddadwy i wneud eu heiddo yn fwy deniadol i'w logi.

Gall newid yn yr hinsawdd agor sgyrsiau newydd ynghylch arlwyo

Mae yna ddywediad Saesneg sy’n dweud bod byddin yn gorymdeithio ar ei stumog. Felly hefyd griw ffilmio. Ar brosiect mawr megis Havoc – sy’n bwydo cannoedd o bobl bob dydd – gall arlwyo gyfrannu'n sylweddol at ein hôl troed carbon cyffredinol. Yn ystod y cynhyrchiad, aethom ati i geisio ennyn diddordeb y cast a'r criw mewn sgyrsiau ynghylch opsiynau o ran y bwydlenni i sicrhau eu bod yn ystyried pam yr ydym yn gwneud newidiadau iddynt. Nid oeddem yn ceisio gwahardd unrhyw beth, ond trwy roi gwybod i bobl am ôl troed carbon gwahanol eu dewisiadau o brydau bwyd, gwelsom fod llawer yn fwy parod i ddewis bwyd ac iddo lai o effaith. I atgyfnerthu’r negeseuon hyn, roeddem wedi gosod posteri o amgylch y stiwdio ac ar leoliad a oedd yn rhoi gwybodaeth am effeithiau dewisiadau penodol ar yr hinsawdd. Mae ein gwaith dadansoddi data, yn rhan o’r prosiect Maximising Havoc, yn ein galluogi i fesur union effaith gwneud dewisiadau gwahanol ynghylch prydau bwyd ar ôl troed carbon.

Ni ddylid gwastraffu gwastraff bwyd

Pan fydd gwastraff bwyd yn mynd i safleoedd tirlenwi, mae'n rhyddhau methan i'r atmosffer; mae methan yn nwy tŷ gwydr sydd 84 gwaith yn fwy grymus na charbon deuocsid dros gyfnod o 20 mlynedd. Gwnaethom ymdrech sylweddol i sicrhau nad oedd unrhyw wastraff bwyd yn mynd i safleoedd tirlenwi. Gan weithio gyda fferm leol sy’n rhedeg treuliwr anaerobig, roeddem yn gallu troi ein gwastraff bwyd yn fio-nwy a gwrtaith. Rhoesom gynlluniau a systemau ar waith i sicrhau bod ein holl wastraff bwyd yn cael ei brosesu ar y fferm hon. Felly bu i rywbeth sydd â'r potensial i achosi effaith uchel o ran carbon ddod yn elfen ddefnyddiol; roedd ei brosesu'n golygu bod llai o allyriadau yn cael eu rhyddhau i'r atmosffer ac y gallai trydan gael ei gynhyrchu ohono trwy'r bio-nwy. Yn rhan o’r prosiect Maximising Havoc, aethom ati i ddatblygu ein dysgu am ailgylchu gwastraff bwyd trwy greu dec sleidiau y gellir ei rannu â chynyrchiadau eraill.