Nol ym mis Chwefror dechreuodd Golwg ar brosiect ‘Fotio am Fory’ gan gynnal grwpiau ffocws gydag amrywiaeth o bobl ifanc o chwe ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru. 

Prif nod yr ymchwil oedd dod i ddeall arferion y bobl ifanc pan mae’n dod i newyddion, gwleidyddiaeth a materion cyfoes sy’n bwysig iddyn nhw gan ddatblygu ar hyn er mwyn rhoi perchnogaeth iddyn nhw o’r materion a’r newyddion.

Ar ddechrau’r prosiect roedd yr ysgolion ar gau gyda’r bobl ifanc yn cymryd rhan dros Zoom neu Teams o’r gegin neu’r lolfa ond erbyn diwedd y cyfnod ymchwil roedd yr athrawon a’r bobl ifanc nol yn yr ystafell ddosbarth yn cymeryd rhan yn ystod gwersi rhydd neu amser cinio yn eu mygydau. Diolch i bob un ysgol, athro a pherson ifanc am gyfrannu mor hael i’r ymchwil.

Ydyn nhw’n ymwneud â newyddion o ddydd i ddydd? Ac ar pa blatfform? Faint o amser ma’ nhw’n treulio yn ymwneud â newyddion bob dydd? Pa faterion sy’n bwysig iddyn nhw? Ydyn nhw’n teimlo eu bod nhw’n cael eu cynrychioli yn y newyddion? Ydy cael pleidleisio yn bwysig iddyn nhw?

Waw, roedd y bobl ifanc yma ar dân am faterion fel iechyd meddwl, newid hinsawdd, hawliau merched, LGBTQ+, BLM a chinio ysgol am ddim i restru dim ond rhai. Roedd yr angerdd yn y trafodaethau yn ddigon i roi stop ar unrhywun sydd ag amheuaeth am y ffaith bod pobl ifanc 16+ yn cael pleidleisio.

Beth oedd y bobl ifanc eisiau? 

  • Geirfa a chynnwys syml
  • Cynnwys deuniadol a ffresh
  • Hawdd i’w ddefnyddio
  • Cynnwys apelgar

Creda’r bobl ifanc bod ‘cenhedlaeth ni yn rili progressive’ sy’n gofyn y cwestiwn, a’i oherwydd bod platfformau mor hygyrch iddyn nhw dyddiau yma? Mae’r wybodaeth a’r newyddion yna iddyn nhw ar eu ffonau 24/7. Yn ôl canlyniadau’r Survey Monkey roedd 71% o’r bobl ifanc yn defnyddio Instagram i dderbyn newyddion a gwybodaeth a 7% yn defnyddio print.

I ateb y galw ac anghenion y bobl ifanc dyma ni’n lawnsio www.instagram.com/fotioamfory. Yma caiff y bobl ifanc gynnwys syml, trawiadol ac apelgar ynglyn â gwleidyddiaeth yng Nghymru gyda thywysog Tik Tok Cymru ei hun, Ellis Lloyd Jones fel llysgennad i’r prosiect. Rydym wedi denu nifer o bobl ifanc i’r platfform, gan roi eu gofynion a’u harferion nhw wrth wraidd pob cynnwys. Cafwyd ymateb ffantastig i’r Takeovers ble roedd pobl ifanc wrth y llyw am y diwrnod, yn ogystal â phobl ifanc yn ysgrifennu erthyglau ar gyfer gwefan Golwg Bro360 a Fotio am Fory.

Yn sicr, mae gan y bobl ifanc lais, ac mae nhw am wneud impact.

Team shot of large group of the young members of the Welsh Senedd voting for the first time