Painting Practice

Stiwdio greadigol yng Nghaerdydd yw Painting Practice sy'n pontio cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu ar draws prosiectau ffilm, teledu a masnachol. Mae wedi gweithio ar brosiectau mawr yn cynnwys Black Mirror, His Dark Materials ac ail-wneud Beauty and the Beast yn 2017. Mae ei ategyn newydd, Plan V, yn gadael i ddefnyddwyr ddelweddu setiau, golygfeydd a bydoedd a grëwyd yn rhithwir drwy ddefnyddio VR i roi ymdeimlad gwirioneddol o raddfa a manylion.

Dan May, cyfarwyddwr creadigol Painting Practice, sy'n rhannu ei brofiad Clwstwr.

Mae fy nghyd-sylfaenydd, Joel Collins a fi wastad wedi bod â diddordeb mewn prosiectau gweledol.

Ers sefydlu'r cwmni 12 mlynedd yn ôl, rydyn ni wedi dymuno dylunio setiau ac amgylcheddau o'r dechrau i'r diwedd, boed yn ddigidol neu'n ffisegol.  Ar yr ochr ddigidol, gall hyn gynnwys rhag-ddelweddu, VFX, graffeg, teitlau, creu awyrgylch, sgrin werdd a mwy. 

Gallwch arbed llawer o amser drwy gael y camau cynnar yn gywir

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi sylwi os gallwch chi gynnwys yr effeithiau gweledol ymlaen llaw, does dim angen eu gwneud ddwywaith wedyn. Pan ddechreuon ni weithio ar His Dark Materials, helpodd y math hwn o feddwl ni i ddechrau'r prosiect a gweld sut roedd yr amgylcheddau terfynol am fod. Drwy gydol y gyfres gyntaf, bu'n rhaid i ni ddysgu'n gyflym iawn er mwyn gweld beth oedd yn ddefnyddiol, pam ein bod yn defnyddio technolegau a theclynnau fel Unreal, beth oedd yn fuddiol i'r sioe ac i ba raddau.

Roeddwn i am ymchwilio a datblygu ap, ond yn ansicr sut y byddai'n effeithio ar gynhyrchu

Gydag unrhyw beth newydd o ran ymchwil a datblygu a thechnegol, dydych chi ddim am roi pwysau ariannol ar y cynhyrchiad. Ambell waith mae ymchwil a datblygu’n talu ar ei ganfed, ond nid pob tro, felly mae'n aml yn ansicr beth rydych chi'n ei gael ohono. Pan glywon ni am gyllid Clwstwr, roeddwn i'n teimlo'n hyderus y byddai'n ein helpu i symud ymlaen gyda datblygu ein technoleg a'n proses greadigol heb roi gormod o faich ar y prosiectau.

Pryder arall oedd gen i oedd perchnogaeth

Mae'n bwysig i ni beidio â cholli eiddo deallusol, felly rydyn ni'n ofalus iawn wrth ddewis y math o gyllid i fynd amdano. Mae'n gwneud synnwyr bod rhywun sy'n cyllido rhywbeth yn dymuno bod ar ei ennill, boed yn eiddo deallusol neu enillion ariannol. Pan siaradon ni gyda Clwstwr, roedden nhw'n deall yn iawn ein bod am gadw eiddo'r cynhyrchion terfynol, ac roedden ni'n hapus iawn i'r cynhyrchion gael eu defnyddio yn y byd academaidd. Roedden ni'n chwilio am rywun i'n cefnogi yn y prosiect, ond hefyd i roi'r rhyddid i ni allu parhau i weithio fel roedden ni'n gweld yn addas.

Daeth syniad craidd yr ap yn sgil moderneiddio

Roedd gennym ni nifer o brosesau roedden ni'n eu dilyn yn Unreal Engine, sy’n rhaglen am ddim, yn ymwneud â chamerâu rhithwir. Fe dreulion ni lawer o amser yn gwneud rigiau camera a dyfeisiau argraffu 3D i alluogi cyfarwyddwyr i ddal monitor gydag atodiadau, fyddai'n galluogi'r defnyddiwr i fod yn y stiwdio ar yr un pryd â bod mewn amgylchedd rhithwir. Roedd y dechnoleg yn defnyddio Oculus neu Vive, gan ei dwyllo i feddwl ei fod yn gamera. Ond pan wnaeth Unreal ategyn sy'n gadael i chi atodi iPad i'r injan gêm, roedd llawer o hyn wedyn yn ddiangen.

Felly roedden ni am ddod o hyd i ffordd y byddai'n bosib defnyddio'r holl waith roedden ni wedi'i wneud a'r prosesau roedden ni wedi'u datblygu. Ar y pryd, roedd Unreal yn prynu llawer o gwmnïau ac yn sicrhau bod eu hadnoddau ar gael am ddim i stiwdios bach ac artistiaid, oedd yn fuddiol iawn i'r gymuned greadigol. Roeddwn i'n meddwl pe bai modd i ni gael cyllid, gallen ni wneud yr un peth; yn hytrach na cheisio elwa o'r ap drwy godi tâl amdano, roedden ni'n meddwl pe bai'r ap am ddim, byddai'n cynhyrchu mwy o waith i ni, yn ein helpu i greu gwaith ac yn arwain at gyfleoedd cyflogaeth.

Unwaith i gyllid Clwstwr ddechrau, aethon ni ati i weithio ar yr ap, gan roi'r enw Plan V iddo

Roedd côdwyr wrthi'n ddygn a rhaglennydd yn gweithio llawn amser i adeiladu a datrys problemau gyda'r ap. Ar ôl cael ambell broblem, newidion ni gyfeiriad ychydig. I ddechrau, roedden ni am greu ap oedd yn gweithio ar yr iPad drwy'r Mac, ond roedd yr holl bethau fyddai angen eu gwneud er mwyn iddo fod yn Mac-benodol yn rhy boenus. Penderfynon ni hefyd y byddai'n well adeiladu Plan V fel ategyn.

Oherwydd amseru, bu'n rhaid i ni fynd yn ôl at adeiladu'r ategyn ar gyfer cyfrifiaduron PC pen desg

Roedd pawb ar His Dark Materials yn defnyddio iPad, felly meddylion ni y byddai pobl yn fwy tebygol o ddefnyddio Plan V pe bai'n addas i iPad. Byddai'n golygu bod pobl ar y set yn gallu chwarae gydag iPad i edrych ar gynlluniau set, onglau camera a phethau tebyg. Ond gan ein bod yn awyddus i gyflawni rhywbeth cyn diwedd y ffenest grant, roeddwn i am wneud yn siwr fod gennym ni endid hyfyw. Felly symudon ni'r ffocws yn ôl i'r PC i wneud fersiwn pen desg o Plan V, felly gallwch ei ddefnyddio gyda'r iPad ar y cyd â PC os ydych chi'n rhedeg y prif feddalwedd ar y cyfrifiadur pen desg. Mae gennym ni fersiwn Mac ar waith, y byddwn yn ei ryddhau maes o law mae'n siŵr, ond nid yw'n ddigon sefydlog eto. 

Lansiwyd Plan V gyda phythefnos cyntaf hynod lwyddiannus

O fewn prin bythefnos, cafwyd 26,000 ymweliad â thudalen gwe Plan V, gyda 4,500 yn lawrlwytho'r ategyn a chyfartaledd o 120 o ddefnyddwyr bob dydd. Dyma'r math o ganlyniadau roedden ni wedi gobeithio amdanyn nhw, hyd yn oed yn well na'r disgwyl. Mae cyfnod clo COVID-19 wedi effeithio ychydig ar y niferoedd ers hynny; er ei fod wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio o bell, mae llawer o'r prosiectau a allai fod yn defnyddio Plan V wedi'u hoedi nes y gallwn ni saethu eto. Pan ddaw'r cyfnod clo i ben neu pan fydd pethau'n ailddechrau yn y diwydiant, byddwn yn gallu edrych eto ar ei hyrwyddo a'i ail-fywiogi.

Y peth pwysig nawr yw dod o hyd i'r pethau da am y cyfnod clo 

Os gallwn ni ganfod ffyrdd o gydweithio o bell, ac os gallwn ni weithio'n fwy economaidd ac amgylcheddol ar draws lleoliadau niferus, yna bydd Plan V yn fwy perthnasol nag erioed. Am y rheswm hwn, rwy'n credu y byddwn yn ceisio pwyso am gyllid i greu llif gwaith aml-chwaraewr. Byddai'n golygu bod llawer o ddefnyddwyr mewn lleoliadau anghysbell yn gallu defnyddio Plan V ar yr un pryd, gan weithio ar ffeiliau prosiect a'u rhannu mewn gofod 3D.