Mae Clwstwr yn bartner mewn rhwydwaith ymchwil newydd. Comisiynwyd y rhwydwaith i osod yr agenda ar gyfer arloesi yn y dyfodol ym maes technoleg ar gyfer cynhyrchu rhithwir (VP), ar gyfer creu cynnwys ac ar gyfer defnyddio’r cynnwys hwnnw; fe’i lansiwyd yn ystod cynhadledd BEYOND 2022.

Mae'r cynhyrchydd Greg Mothersdale yn Gyd-Ymchwilydd ar y prosiect XR Network+ ar gyfer Cynhyrchu Rhithiwr yn yr Economi Ddigidol, sy'n un o’r pum prosiect yn y DU (£3.5m + £3m ar y cyd, 2022-27) a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC).

Mae pum partner prosiect y Rhaglen Clwstwr ar gyfer y Diwydiannau Creadigol, AHRC, yn rhan o’r rhwydwaith, dan arweiniad Prifysgol Efrog (XR Stories), gyda Phrifysgol Caerdydd[KM1] [RP2]  (Clwstwr); Prifysgol Caeredin (Creative Informatics); Prifysgol Ulster (Future Screens Northern Ireland) a Business of Fashion, Textiles and Technology UAL.

XR+Network launch panel

"Ceir cryn dalent a sgiliau creadigol a thechnegol o ansawdd uchel ym meysydd cynhyrchu rhithwir a realiti estynedig, yn sector creadigol y DU; sy’n golygu ei fod yn sector byd-enwog. Mae’r prosiect XR Network+ yn digwydd ar amser da gan ei fod yn gyfle i ddatblygu’r dulliau ysbrydoledig hyn o gynhyrchu ac adrodd straeon drwy sefydlu agenda ymchwil ar gyfer y dyfodol a fydd yn cydgyfeirio academia a diwydiant i gefnogi cynnydd a thwf yn y maes newydd hwn. Cydweithio ar ymchwil, creu ar y cyd ac arloesi a arweinir gan her fydd sail y prosiect. Wedi’i arwain gan dîm gwych o bartneriaid ledled y DU, bydd yn archwilio ac yn gwella potensial aruthrol y maes cyffrous hwn yn yr economi greadigol ddigidol; maes sy’n tyfu’n gyflym."

— Cynhyrchwyr Greg Mothersdale

Mae sector diwydiannau sgrîn y DU yn buddsoddi'n helaeth mewn seilwaith stiwdio i ateb y galw yn sgîl y twf sylweddol mewn cynhyrchu VP/XR.  Ochr yn ochr â hyn, bydd ymchwilwyr yn XR Network+ yn gweithredu mewn 20+ o brifysgolion sydd yn gysylltiedig â’i gilydd, o bedair gwlad y DU.  Bydd y prosiect XR Network+ yn archwilio syniadau, technolegau ac ymarfer creadigol ym maes VP/XR i ddatgloi ei botensial llawnaf ar draws yr economi ddigidol gyfan ac yn y sectorau cysylltiedig eraill.

Ymhlith yr heriau ymchwil a grëwyd ar y cyd gyda phartneriaid y prosiect mae: integreiddio bydoedd gemau rhithwir a chynnwys ffisegol; dylunio sain; adeiladu amgylcheddau, cymeriadau a gwrthrychau VP; materion yn ymwneud â moeseg ac eiddo deallusol (IP) wrth ddefnyddio asedau a data digidol; deallusrwydd artiffisial (AI) ac awtomeiddio a yrrir gan ddata; trosi ac effaith yn y economi ddigidol.

Mae technolegau ar gyfer cynhyrchu rhithwir yn esblygu tirwedd y maes adrodd straeon drwy dechnoleg, o gynhyrchu cynnwys ffilm a theledu i brofiadau byw ac ymgolli, gyda chynyrchiadau megis Game of Thrones HBO yn stiwdios Leavesden Warners UK.  Mae'r technolegau hyn yn cael effaith aruthrol ar y diwydiannau sgrîn eisoes, ac mae ganddynt botensial sylweddol i drawsnewid sectorau cynyrchiadau byw a pherfformio hefyd - fel y gwelwyd mewn prosiectau arloesol megis DREAM The Royal Shakespeare Company ac mewn apiau diweddar ar Abba Voyage. 

 

Yng Nghymru, mae datblygiadau ym maes cynhyrchu rhithwir o fewn y diwydiannau sgrîn wedi hyrwyddo cyfleoedd i dyfu o ran cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau cysylltiedig. Roedd cyllid Clwstwr yn cefnogi nifer o brosiectau sy'n canolbwyntio ar gynhyrchu rhithwir. Drwy ei waith ymchwil a datblygu, datblygodd aelodau o garfan Clwstwr, Painting Practice, gyfres o adnoddau o’r enw Plan V Tools sy’n hwyluso ar y newid o gynhyrchu traddodiadol i gynhyrchu rhithwir a hwyluso’r defnydd o beiriant gemau mewn ffilm a theledu. Defnyddiodd Good Gate Media y dechnoleg cyfleu mewn amser real i ddatblygu demo ar gyfer Deathtrap Dungeon: Arweiniodd The Golden Room, y ffilm ryngweithiol gyntaf yn seiliedig ar fasnachfraint hynod lwyddiannus y llyfr gemau Fighting Fantasy; gwaith cyfleusterau On Set at system gynhyrchu rithwir sy'n lleihau bylchau rhwng y byd go iawn a rhithwir, GODBOX, yn seiliedig ar fanyleb OSFX, a defnyddiodd Small and Clever Productions rith-gynhyrchu i wella technegau cynhyrchu teledu ar gyfer rhaglen deledu BBC Cymru. 
 

Mewn datblygiadau eraill, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi lansio lleoliad newydd trawiadol, Bocs, yn benodol ar gyfer rhaglen o brofiadau rhyngweithiol yn unig. Mae cynhyrchu rhithwir yn dod â thechnoleg a chipio cynnwys amser real, ac mae technoleg ryngweithiol yn chwarae rhan annatod yn hyn, nid yn unig yn dechnolegol, ond hefyd trwy greu posibiliadau newydd ar gyfer adrodd straeon. Mae llawer o gwmnïau ac unigolion yn cael eu swyno gan hyn ac yn gallu gweld manteision clir i’r cyfle yn y dyfodol i greu ffyrdd newydd o adrodd straeon.

Os hoffech gysylltu â thîm Cynhyrchu Rhithwir Straeon XR +, ewch i: https://xrstories.co.uk/about/contact/ neu ebostiwch

 

Greg's Headshot

Greg Mothersdale, Cynhyrchydd