Joelle Rumbelow

Dylunydd cynhyrchu llawrydd, addurnwr set, cyfarwyddwr celf ffilm a theledu ac yn gyd-sylfaenydd Set The Story yw Joelle Rumbelow. Ar ôl graddio gyda gradd mewn cyfryngau'n seiliedig ar amser yn 2001, bu'n gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu fel prynwr arian mân, ond symudodd i weithio mewn adrannau celf a dylunio cynyrchiadau ar ôl gweithio ar Dr Who. Mae bellach yn gweithio'n llawrydd ledled y byd i enwau mawr y diwydiant gan gynnwys y BBC, Netflix a CBS, gan gynnal ymchwil a datblygu drwy Set the Story.

Gwelais i hysbyseb Clwstwr yn galw am bobl oedd yn dymuno datblygu eu syniadau mewn gweithdy

Mae cael syniadau yn rhywbeth rwyf i'n ei wneud bob dydd; rwy'n cysyniadu pethau ac yn creu straeon, ôl-straeon a bydoedd. Roedd y gweithdy'n swnio fel rhywbeth y byddwn i'n ei fwynhau, er nad oedd gen i syniad creiddiol roeddwn i am ymchwilio iddo ar y pryd, felly fe ymgeisiais i.

Roedd y gweithdy'n gyfle i fi feddwl am ffyrdd o weithio

Yn y degawd blaenorol, dychwelais i'r brifysgol i gwblhau gradd mewn pensaernïaeth. Arweiniodd fi i weithio mewn diwydiant gwahanol am gyfnod byr, er ei fod yn dal ym maes dylunio. Roedd llif y gwaith yn llawer mwy strwythuredig na dylunio teledu a ffilm, sydd heb strwythur ac yn achlysurol ei natur.  Roedd y gwahaniaeth yn ddiddorol dros ben, felly ymgeisiais am gyllid i edrych ar lif gwaith adrannau celf a dylunio mewn teledu a ffilm. 

Pan ddechreuais yn y diwydiant, doedd dim ffonau symudol ar gyfer rhannu gwybodaeth. Bryd hynny, roedd popeth yn arafach; roedd moethusrwydd amser gennym ni. Roedden ni'n defnyddio'r A-Z i ddod o hyd i'r ffordd i lefydd, roeddwn i'n mynd allan ar droed i chwilio am bethau i'w defnyddio wrth saethu ac roedden ni'n defnyddio camerâu 35mm i dynnu lluniau. Ni oedd llygaid y dylunydd, yn chwilota am bethau ac yna'n adrodd yn ôl gyda'n canfyddiadau. Mae technoleg wedi cyflymu'r broses honno. 

Mae mor gyflym bellach oherwydd bod gan bawb ddelweddau, rydyn ni'n bownsio syniadau'n ôl ar WhatsApp a chaiff ffeiliau eu hanfon o gwmpas yr adran yn rhwydd. Roedd gen i ddiddordeb mewn gweld sut mae'r broses wedi newid ac esblygu dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Mae cymaint o ddatblygiadau wedi digwydd yn niwydiant y cyfryngau a thechnoleg. Fodd bynnag, does dim cymaint o ymchwil sylfaenol i sut mae'r diwydiant yn gweithio am fod cynifer o'r bobl sy'n gwneud y gwaith, yn darparu gwasanaethau ac yn crefftio pethau yn y diwydiant, yn weithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig.  

Canolbwyntiais ar y crefftwyr yn y diwydiant, y gweithwyr llawrydd a busnesau bach a chanolig

Yn y DU, rydyn ni'n tueddu i ganmol pobl sydd ar flaen y cynhyrchiad – y dylunydd, yr actor a’r cynnyrch pen blaen. Caiff sylw ei roi i'r technolegau newydd y mae stiwdios yn eu cyflwyno, sydd, er bod hyn yn wych, yn anwybyddu'r crefftwyr ac yn golygu bod risg eu bod yn cael eu tanbrisio neu eu hanghofio. 

Roeddwn i ymhlith y bobl sy'n cael eu hanwybyddu, felly defnyddiais y mynediad roedd fy swydd yn ei roi i mi i gyfweld â chrefftwyr eraill yn y diwydiant a chael eu barn ar y sefyllfa. Gofynnais beth oedd y bobl hyn yn ei ddymuno, beth oedd ei angen arnyn nhw a ffyrdd o ddatrys problemau llif gwaith yn ymwneud â chyfathrebu, coladu gwybodaeth, sut i gydweithio'n fwy effeithiol a phethau felly.

Roedd yr adborth yn ddiddorol gan ddatgelu bylchau sydd angen eu llenwi

O siarad â chrefftwyr, mae'n ymddangos nad oes offer ar gael i ddatrys problemau llif gwaith yn dda iawn ar hyn o bryd. Dywedodd rhai fod gweithredu’r offer sydd ar gael yn teimlo fel llwyth gwaith ychwanegol oedd yn rhoi pwysau ychwanegol ar waith, yn hytrach na’u helpu i fod yn gynhyrchiol. Nododd eraill fod datblygu systemau llif gwaith gwell yn teimlo'n rhy bell o natur gorfforol ymarferol y swydd. Roedd gwrthwynebiad eithaf eang. 

Rydyn ni'n eistedd wrth ochr yr adran VFX a'r adran ôl-gynhyrchu, sydd wedi datblygu'n sylweddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Ond er bod rhai cynyrchiadau sydd â dylunio sy'n drwm ar VFX neu CG, mae cynyrchiadau eraill o hyd nad ydyn nhw mor drwm ar VFX neu CG. Rhaid i'r adran gelf yn arbennig ddatblygu a chadw'n gyfredol â chyflymder y newid. Mae'n rhan greadigol, werthfawr a phwysig o'r broses na ddylai fod ar ei hôl hi; yn ffodus roeddwn i'n gallu gweld ffyrdd i wneud pethau'n fwy effeithlon.

Ymgeisiais am gyllid pellach gan Clwstwr i greu prototeip

Rwy'n berson eithaf ymarferol, felly cyn gynted ag y cymeradwywyd ein cyllid fe es i ati'n syth i ddechrau adeiladu. Roedd hyn siŵr o fod am fy mod yn dod o amgylchedd gwneuthurwr lle rydych chi'n mynd ati i wneud pethau a gweld beth a ddaw yn hytrach na dadansoddi a siarad am bethau cyn gwneud unrhyw beth. 

Y cynllun oedd creu ap prototeip i gynorthwyo gyda chynllunio, llif gwaith a chyfathrebu. Roedden ni am ail-greu'n ddigidol y ffordd roedden ni'n arfer rhannu syniadau ar bapur neu ar fwrdd mawr yn y swyddfa. Gan ein bod ni bellach yn gweithio o bell ac ar y set yn amlach, mae angen ffordd ddigidol i gyfathrebu a rhannu'r mathau hyn o syniadau. 

Mae gan yr ap ryngwyneb defnyddiwr sy'n cael ei arwain gan stori

Mae'n mynd â'r defnyddiwr trwy ddyluniad y ffilm neu'r rhaglen deledu, gyda'r holl asedau, gwybodaeth a data y tu ôl iddo. Gallwch lywio trwy'r lluniadau adeiladu gyda nodwedd log lluniadu, y gallwch chi greu man gwaith ohono. Yno, gallwch ychwanegu manylion ar bethau fel y gorffeniadau, y gofynion goleuo, gweadau a thonau, y dodrefn, propiau gweithredu ac yn y blaen, fel y gallwch chi adeiladu'r byd fesul set, golygfa wrth olygfa. 

Roedd yn golygu llawer o godio ac roedd rhaid adeiladu llawer o dechnoleg gefndirol

Roedd hyn yn eithaf anodd i mi gan fy mod wedi arfer â phethau gweledol, blaengar, graenus, hawdd eu defnyddio. Yn ffodus, mae gen i aelodau o'r teulu sy'n gweithio ym maes rhaglennu felly roeddwn i'n gallu siarad â nhw amdano er mwyn deall y peth. Llwyddodd fy mrawd sy'n bensaer meddalwedd a datblygwr cefndirol i'w wireddu'n ymarferol. Roedd y gwir amser adeiladu'n fyr, tua thri neu bedwar mis. Ar hyn o bryd mae yn y modd beta. 

Mae gan lawer o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ddiddordeb ynddo

Rydyn ni'n ceisio gwella rhyngwyneb y defnyddiwr i'w wneud yn fwy hylaw; rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio mwy ar yr elfen gefndirol hyd yma. Yn ogystal â chanolbwyntio ar ddefnyddioldeb, rydyn ni’n creu sesiwn hyfforddi gychwynnol lle gallwn esbonio'r broses feddwl y tu ôl iddo a swyddogaethau'r ap, fel y gall pobl fynd ati i'w ddefnyddio.

Mae gweithio ar yr ymchwil a datblygu hwn ochr yn ochr â'm gwaith arall wedi datgelu ystyriaethau ehangach

Rwyf wedi sylweddoli pa mor bell sydd angen i ni fynd yn y diwydiant o ran cyrraedd sero net a deall ein gallu gwyrdd ochr yn ochr â'n galluoedd cyllidebu. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar gynhyrchiad ffilm Americanaidd mawr sy'n cynnwys llawer o stiwdios mawr yn symud yn gyflym, ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli bod cymaint o wastraff yn yr hyn a wnawn os nad oes prosesau ar waith. Mae’n pwysleisio pa mor bwysig yw cynnwys proses, cynllunio a’r math hwn o system yn y diwydiant fel y gallwn ni i gyd fod yn fwy effeithlon. 

Tybed sut y gallai'r syniadau y tu ôl i'r prototeip weithio ar lefel y diwydiant

Mae'n rhyfedd, dechreuais drwy feddwl am fusnesau bach a chanolig ac unigolion yn yr adran gelf, ond mewn gwirionedd mae hwn yn fater llawer ehangach sydd angen sylw. Mae'n wirioneddol raid i ni newid ein harferion gwaith.

Ar ddiwedd y broses, fe wnes i gynnwys adroddiad cynaliadwyedd, yn y gobaith y gallai helpu pobl eraill. Canolbwyntion ni ar wneud dylunio'n fwy effeithlon, ond drwy'r ymchwil a datblygu sylweddolais fod angen i ni feddwl y tu hwnt i hyn ac edrych ar fod yn gynaliadwy hefyd. Hoffen ni barhau â'r ymchwiliad gyda mwy o ymchwil a datblygu, felly rydyn ni wedi sefydlu cwmni cyfyngedig o'r enw Set The Story, gan obeithio symud pethau yn eu blaen.

I gysylltu â Joelle anfonwch e-bosthello@setthestory.com