Helo Jessica! Sut byddech chi'n disgrifio iungo Solutions?

Mae iungo Solutions yn creu'r dolenni cyswllt rhwng cyflogwyr, y sawl sy’n rhoi hyfforddiant a thalent. Trwy ddatblygu rhaglenni dysgu ymdrwytho a dysgu-drwy-brofiadau, mae iungo yn meithrin ac yn uwchsgilio talent ar gyfer rolau sgiliau-uchel mewn sectorau sy'n dod i'r amlwg a sectorau blaenoriaeth gan gynnwys datblygu gemau a diwydiannau creadigol eraill. 

Sut daethoch chi i wybod am gyllid Clwstwr?

Cawsom wybod am gyllid Clwstwr trwy Twitter.

Beth wnaeth eich ysbrydoli i wneud cais am gyllid?

Mae ein cefndiroedd ni’r cyd-sylfaenwyr yn y maes technegol. Roeddem wedi gwneud gwaith yn y sector peirianneg, gweithgynhyrchu a digidol, ond roedden ni’n gallu gweld bod y bydoedd creadigol a thechnoleg yn dechrau uno. Roeddem am gael cyfle i archwilio’r groesffordd honno a chanfod rolau creadigol digidol oedd yn dod i’r amlwg.


Beth roeddech chi'n bwriadu ei wneud ar gyfer eich prosiect Clwstwr?

Ein nod oedd amlygu’r llu o lwybrau y gellid eu dilyn tuag at rolau yn y diwydiannau creadigol. Rydyn ni’n gwybod bod cynifer o ddewisiadau eraill ar gael, ar wahân i’r brifysgol, ond weithiau mae'n anodd dod o hyd i'r cam nesaf cywir. Ar lefel economaidd, roeddem am gefnogi’r sector creadigol i fanteisio ar gronfeydd o dalentau oedd heb eu canfod fel y gallent dyfu eu busnesau a chael effaith. Cawsom gyfanswm o £55,000 gan Clwstwr dros ddwy rownd ariannu (cylch sbarduno a chylch ymchwil yn y diwydiant).

Pa broses wnaethoch chi ei defnyddio i gyflawni eich prosiect Clwstwr?

Fe roesom ni ddull Diemwnt Dwbl (Double Diamond) ar waith i gyflawni ein prosiect. Yn gyntaf, fe wnaethon ni ganfod a fframio’r broblem o ran recriwtio yn y diwydiannau creadigol. Buom yn gweithio gyda chwmni ymgynghori arbenigol ar niwrowahaniaeth i gasglu barn o safbwynt ymgeisydd a mapio teithiau defnyddwyr, yn ymgeiswyr a chyflogwyr. Yna fe ddefnyddion ni offer fel MoSCoW ac MVP i fyrhau’r rhestr posib o atebion y gallem eu creu. Wedi i ni benderfynu ar yr ateb o'r rownd sbarduno, fe aethon ni ymlaen â'r rownd ymchwil yn y diwydiant. Yn ystod y rownd hon o gyllid, fe wnaethom ddechrau prototeipio platfform digidol, gan gael defnyddwyr i’w brofi ar bob cam o'i ddatblygiad. Erbyn y diwedd, roedd gennym blatfform oedd wedi bod yn destun profi cysyniad, a oedd wedi’i ddilysu gan unigolion a chyflogwyr.

Beth oedd prif ganlyniadau'r ymchwil?

Galluogodd y cyllid Ymchwil a Datblygu ni i brofi’r cysyniad (y platfform) yn fyw; fe dreialon ni’r platfform gyda grŵp peilot o 45 o ymgeiswyr. Roedd hefyd yn ein galluogi i ddatblygu galluoedd ein tîm ac i nodi cyfleoedd pellach i arloesi, trwy atebion technolegol a rhaglenni hyfforddi pwrpasol i fynd i’r afael â bylchau mewn llwybrau gyrfaol.

Beth rydych chi'n meddwl fydd eich cam nesaf, yn dilyn cynnal y gwaith ymchwil a datblygu?

Mae'r prosiect wedi trawsnewid ein busnes yn strategol ac yn weithredol. Rydym wedi canolbwyntio ar ddatblygu rhaglenni hyfforddi pwrpasol dan arweiniad cyflogwyr sy’n targedu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan eu galluogi i uwchsgilio a symud i rolau sy’n dod i’r amlwg mewn sectorau creadigol â blaenoriaeth megis datblygu gemau. Rydym yn parhau i adeiladu’r platfform, ac yn ei ddefnyddio’n fewnol i gefnogi ein dysgwyr drwy ddatblygu eu cyflogadwyedd a’u cysylltu â chyflogwyr.