Ynglŷn â Hijinx

Mae Hijinx yn gwmni theatr cynhwysol. Wedi’i sefydlu ar ddechrau’r 1980au fel cwmni theatr rheolaidd yn gwneud sioeau i deithio o amgylch Cymru, dechreuodd weithio’n gynhwysol gydag actorion a oedd yn oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ar droad y mileniwm. Ynghyd â phrosiectau eraill, mae'n cynnal cyrsiau hyfforddi Academi Hijinx ledled Cymru. Yno, mae’n gweithio gyda dros 60 o actorion sy’n derbyn hyfforddiant parhaus mewn llawer o ddisgyblaethau perfformio i’w helpu i baratoi ar gyfer trylwyredd ymarfer a pherfformio ar lwyfan a sgrîn. Mae Hijinx hefyd yn cynhyrchu ei sioeau ei hun sy'n teithio’n rhyngwladol. 

Mae Hijinx yn gwella cynrychiolaeth ar gyfer actorion sy'n oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth

Un o’r prif ffyrdd rydyn ni’n gwneud hyn yw trwy roi straeon a lleisiau ein hactorion wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'n sicrhau bod ein cynyrchiadau yn gynrychioliadol o fywydau ein hactorion ac yn helpu i adeiladu straeon a lleisiau mwy dilys, a all hefyd wella dealltwriaeth o'u bywydau.

Mae diffyg hygyrchedd a chynrychiolaeth yn y diwydiannau llwyfan a sgrîn

O rywfaint o waith ymchwil a wnaethom cyn ein prosiect Clwstwr, a oedd yn cynnwys (ymysg pethau eraill) edrych ar ymchwil arall a wnaed gan y BFI a sefydliadau eraill, roeddem yn gwybod bod y diwydiant sgrîn ar ei hôl hi o gymharu â’r diwydiant perfformio byw yn y meysydd hyn. Yn 2019, dim ond tua 5% o bobl ar y sgrîn oedd yn anabl, boed hynny mewn rhaglenni newyddion a materion cyfoes, dramâu, comedi neu eraill. Hefyd, ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng pobl ag anabledd corfforol a phobl ag anabledd dysgu. Gwyddom yn anecdotaidd fod cynrychiolaeth pobl ag anabledd dysgu hyd yn oed yn is nag ar gyfer y rhai ag anableddau corfforol.

Roedd y diffyg ymchwil a chynrychiolaeth yn ein hannog i archwilio ffyrdd y gallem ddatblygu pethau i helpu'r diwydiant i wella a chyflogi mwy o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth. Fe wnaethon ni feddwl tybed a oes modd creu straeon ar y sgrîn yn yr un ffordd ag yr ydym yn ei wneud ar gyfer ein gwaith theatr - h.y. trwy ddechrau gyda syniad bras a datblygu'r syniad hwnnw gyda'n hactorion, fel bod eu lleisiau, eu straeon dilys a'u syniadau yn codi trwy'r prosiect cyfan. . Mae’n rhaid bod ffordd o wneud rhywbeth tebyg wrth greu sioe deledu, ffilm fer, prif ffilm neu gêm . Roedd y myfyrio hwnnw’n ein harwain at ein prosiect Clwstwr.

Gwnaethom gais am gyllid sbarduno Clwstwr i ymchwilio i ddulliau ymchwil y gallai cwmnïau eu defnyddio

Diben hyn oedd gweld a allem ddod o hyd i set unedig o ddulliau gweithredu y gellid eu lledaenu ymhlith y diwydiant sgrîn trwy hyfforddiant. Fe wnaethom recriwtio ymchwilydd a siaradodd â chwmnïau theatr cynhwysol eraill a oedd wedi arbrofi gyda ffilm a theledu, yn ogystal â chwmnïau sgrîn a oedd wedi gweithio’n gynhwysol ar brosiectau, i weld eu ffordd o wneud pethau. Cynhaliwyd trafodaethau grŵp ffocws gennym hefyd â phartneriaid yn y diwydiant, gyda chyfranogwyr o amrywiaeth o rolau ffilm a theledu.

Dangosodd hyn ddau beth i ni

Y cyntaf, a oedd yn braf iawn mewn sawl ffordd, oedd bod bron pawb y siaradodd ein hymchwilydd â nhw wedi dweud eu bod yn gwneud pethau yn y ffordd y mae Hijinx yn ei wneud, oherwydd ein bod ni'n defnyddio’r dull gorau o wneud hynny. Yr ail beth yr oedd yn dangos i ni oedd pa mor anodd yw edrych ar bethau ar eu pennau eu hunain ym myd ffilm a theledu, yn enwedig o ran cynwysoldeb a hygyrchedd, oherwydd bod cynifer o rannau symudol i brosiectau ffilm a theledu sy’n gorgyffwrdd â’i gilydd. Digon hawdd ceisio edrych ar ffyrdd o ddatblygu sgript yn gynhwysol ac yna ei chastio’n gynhwysol, yn yr ystyr hwnnw, ond os nad yw’r rhag-gynhyrchu, yr ôl-gynhyrchu, y marchnata neu unrhyw elfen arall ohoni yn gynhwysol hefyd, mae'n dechrau chwalu ac nid yw'n wirioneddol gynhwysol. 

Dyna lle y cyrhaeddom ar ddiwedd ein cyfnod cyllid sbarduno: ni ddylem fod yn edrych ar greu gwaith yn unig, o ran y sgript ac yn y blaen, ond dylem fod yn edrych ar elfennau ehangach y diwydiant a sut.gallwn gefnogi’r rheiny hefyd.  Roedden ni’n gwybod bod gennym ni’r syniad cywir a bod angen hynny, ond erbyn y diwedd, sylweddolwyd bod angen i ni ei ehangu’n llawer mwy nag oedden ni’n meddwl. Roedd awydd mawr amdano hefyd. Gwnaethom gwblhau'r cam cyntaf hwnnw trwy nodi pum cynnyrch allweddol y gallem fynd ymlaen i'w creu.

Y cynnyrch posibl cyntaf oedd hyfforddiant cyfathrebu. 

Byddai hyn yn golygu mynd i mewn i gwmni cynhyrchu a gweithio gyda 10-12 aelod o'u staff ar hyfforddiant cyfathrebu ar sail chwarae rôl. Byddai ein hactorion yn cael eu cyflogi i bortreadu rhywun yn dod ar eu diwrnod cyntaf o'r ffilmio (er enghraifft). Yna, byddem yn gwahodd rhywun o dîm y cwmni cynhyrchu i fod y person arall yn yr olygfa, a oedd yn gorfod ei groesawu i'w ddiwrnod cyntaf ar y set. Gall fod yn llethol i bobl niwronodweddiadol sy'n cyrraedd ar set, ac mae hyd yn oed yn fwy felly i rai pobl niwroamrywiol.

Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi'i wneud mewn sectorau eraill, megis gyda meddygon dan hyfforddiant y GIG i helpu i wella cyfathrebu wrth ymdrin ag oedolion ag anableddau dysgu yn yr ystafell ymgynghori. Roeddem yn cymryd y syniadau sylfaenol hynny ac yna'n eu teilwra i'r diwydiannau sgrîn.

Yn ail, roedd gennym syniad o wasanaeth ymgynghori

Byddem i bob pwrpas yn ymgynghorwyr ar brosiect, rhaglen neu ffilm, gan weithredu fel seinfwrdd i helpu’r cwmni cynhyrchu hwnnw i lywio eu ffordd trwy gynhyrchiad cynhwysol.

Y trydydd prosiect i ni feddwl amdano oedd asiantaeth galluogwyr creadigol

Os cyflogir actor, y galluogwr creadigol fyddai rhywun sy'n mynd gydag ef/hi ar y set, yn ystod ymarferion ac ati. Byddai’n gweithredu fel cefnogaeth i'r actor hwnnw yn ôl yr angen, boed hynny’n mynd trwy linellau neu'n ei helpu i ddeall beth sy'n digwydd nesaf. Byddai hefyd yn cyfathrebu'n ôl i'r criw a'r cyfarwyddwr, i helpu i gadw popeth i redeg yn esmwyth. Gallem greu rhestr o bobl a fyddai'n cael eu hyfforddi i allu gwneud hynny.

Ein pedwerydd syniad oedd pecyn cymorth ar-lein

Gellid cyrchu hwn yn ddiweddarach ar ôl yr hyfforddiant. Neu gellid ei wneud fel peth ar wahân os oes gennych chi sefydliad mawr gyda gweithlu eang sydd angen hyfforddi llawer o bobl mewn gwahanol leoliadau. Fe wnaethom ddychmygu ei fod o bosibl yn cynnwys hyfforddiant ffilm rhyngweithiol, fel yr hyn y byddem yn anelu at ei wneud yn y sesiynau hyfforddi chwarae rôl byw ond mewn ffilm. Gallai’r cyfranogwyr ddewis yr ymateb mwyaf priodol ar bwynt penodol yn y ffilm ac yna gweld sut mae hynny’n datblygu.

Yn olaf, roedd syniad o rwydwaith eiriolaeth

Byddai’n galluogi pobl o sefydliadau i gefnogi ein gwaith a bod yn eiriolwyr llafar drosto. Gallai eiriolwyr ymddangos mewn cynadleddau fel Gŵyl Deledu Caeredin a dweud wrth bobl am y gwaith rydym yn ei wneud a sut y gall helpu i newid tirwedd cynrychiolaeth.

Cawsom fwy o arian i archwilio ein syniadau, gan ddechrau gyda hyfforddiant cyfathrebu

Er ein bod wedi mynd ati i archwilio pob un o'r pum peth, roedd yn amlwg mai'r hyfforddiant cyfathrebu fyddai'r mwyaf effeithiol a'r un mwyaf poblogaidd. Felly, fe wnaethom ystyried ei gyflwyno fel blaenoriaeth, gyda'r lleill yn dilyn wedyn. 

Roeddem am ddarparu hyfforddiant i sefydliadau o wahanol feintiau. Cawsom ein hysgogi gan hyn i feddwl am ffyrdd o deilwra ein hyfforddiant i sefydliadau o wahanol feintiau. Er enghraifft, roeddem am allu darparu hyfforddiant yn y fath fodd fel ei fod yn effeithiol ac yn ariannol hyfyw i bawb, hyd yn oed os mai dim ond cwmni cynhyrchu bach oedd gennych. Yn yr un modd, efallai y bydd angen ffordd hollol wahanol o fynd i’r afael â phethau ar weithlu mwy gyda llawer o adrannau, felly fe gymeron ni amser i ystyried hyn.

Buom yn siarad yn fanylach â'r cwmnïau cynhyrchu

Nhw oedd y rhai yr oeddem wedi bod yn sgwrsio â nhw yn y cam cyntaf, ynghyd â chwpl o gwmnïau eraill yr oeddem wedi sefydlu perthynas â nhw yn y cyfamser. Yn ogystal â’r tri sefydliad o’r llwyfan cyntaf (S4C, Triongl a Severn Screen), roedd gennym dri arall: Rondo Media, Bad Wolf a Screen Alliance Wales. Roedd hyn yn ein galluogi i edrych ar sefydliadau o wahanol feintiau sy’n creu gwahanol fathau o waith, gan gynnwys cynyrchiadau ias a chyffro ditectif noir Cymreig, ffilmiau cyllideb fawr a chynyrchiadau ar raddfa lai.

Fe wnaeth COVID-19 ein gorfodi i newid ein cynlluniau ar gyfer ymchwil a phrofi’r hyfforddiant

Cynhaliwyd cwpl o ddiwrnodau hyfforddiant cyfathrebu prawf, ond cawsom ein gwthio i'r cyrion rhywfaint gan bandemig COVID-19. Oherwydd ein bod yn gweithio gydag oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, y mae gan rai ohonynt gyflyrau iechyd sylfaenol sy'n eu gwneud yn agored i niwed yn glinigol, bu'n rhaid i lawer o'n hactorion hunanwarchod gartref yn ystod a hyd yn oed ar ôl y cyfyngiadau symud. Roedd yn rhaid i bethau yr oeddem yn gobeithio eu gwneud yn bersonol newid i fod ar-lein.

Yn ystod y cam cyllid sbarduno, roeddem yn gobeithio defnyddio prosiectau cyfredol i brofi ein syniadau wrth i ni eu datblygu, ond yn hytrach, oherwydd i'r diwydiant ddod i stop yn ystod y pandemig, fe wnaethom edrych ar brosiectau yr oeddem wedi'u gwneud yn y gorffennol diweddar iawn a defnyddio'r rheiny fel astudiaethau achos i weld sut y gellid gwneud pethau. Troesom hefyd at ffilmiau sydd eisoes ar gael i’r cyhoedd sydd â stori sy’n ymwneud â rhywun ag awtistiaeth, er enghraifft, ond lle nad yw wedi cael ei hadrodd mewn ffordd ddilys. Er enghraifft, cafodd Music by Sia lawer o wasg negyddol am ei chynrychiolaeth wael o awtistiaeth. Roedd yn heriol newid cynlluniau, ond fe lwyddon ni i wneud hynny.

Erbyn diwedd ein cyllid prosiect, roedd yr hyfforddiant sgiliau cyfathrebu bron yn barod

Roeddem yn gwybod sut y byddai'n gweithio, sut olwg fyddai arno a sut y gallem fynd ati i'w wneud. Roedd y syniadau eraill yn disgyn i'w lle yn y cefndir, hefyd; roedd yr asiantaeth galluogwyr creadigol, yr ymgynghoriaeth a’r rhwydwaith eiriolaeth yn dod at ei gilydd, ac roedd y pecyn cymorth ar-lein yn teimlo’n ddigon hawdd i ni ei ddatblygu wedyn.

Yn dilyn Clwstwr, cawsom arian Cymru Greadigol i’w gyflwyno hyfforddiant

Roedd Clwstwr yn ein galluogi i ddatblygu’r hyfforddiant i’r pwynt lle gallwn ddechrau ei roi ar waith, yna bydd Cymru Greadigol yn caniatáu i ni ddechrau gwneud hynny. Gobeithiwn gynnig yr hyfforddiant i ystod eang o gwmnïau cynhyrchu o wahanol feintiau, gyda chymorthdaliadau neu ostyngiadau gan ddibynnu ar faint a siâp y cwmni sy’n cael ei hyfforddi.

Teimlwn ein bod yn cyflawni amcanion ein cwmni gyda'r gwaith hwn 

Yn syth yn ôl pan ddechreuon ni weithio’n gynhwysol am y tro cyntaf, roeddem eisiau newid tirwedd y celfyddydau o ran cynwysoldeb, gan wybod y byddai’n cael effaith ganlyniadol ar sut mae pobl yn cael eu gweld yn y gymdeithas hefyd. Gallai'r prosiect hwn gael rhai effeithiau cadarnhaol iawn ar y diwydiant ei hun ac yng nghyd-destun llawer ehangach bywyd pob dydd.

Yr adborth a gawsom hyd yn hyn yw bod yr hyfforddiant cyfathrebu yn addysgu pobl o ddifri am ffyrdd gwell o gyfathrebu, nid yn unig gydag oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ond gydag unrhyw un ar set ffilm a’r tu hwnt. Wrth geisio creu'r meddylfryd lle rydyn ni i gyd yn meddwl am sut rydyn ni'n cyfathrebu'n gyffredinol a'r iaith sy'n cael ei defnyddio, byddwn ni'n gwneud lleoedd gwell i bawb. Rydym yn llawn cyffro i weld y newidiadau y gallwn eu gwneud gyda'n gilydd.