Ynglŷn â Gŵyl Animeiddio Caerdydd 

Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd yn ddathliad eilflwydd o bopeth sy’n ymwneud ag animeiddio, a gynhelir ym mhrifddinas Cymru. Cynhaliwyd yr ŵyl gyntaf yn 2018 ac chafodd yr ail ŵyl, yn 2020, ei chynnal ar-lein oherwydd y pandemig Covid-19. Yn 2022, dychwelodd yr ŵyl fel gymysgedd o ddigwyddiadau wyneb-yn-wyneb ac ar-lein. Er gwaethaf rhai cyfnodau heriol, mae'r ŵyl yn tyfu ac yn ffynnu.  

Gwnaethom gynnal prosiect Clwstwr a ariannwyd gan gyllid sbarduno yn ôl yn 2020 

Edrychodd y prosiect ar wyrddu'r diwydiant animeiddio. Fodd bynnag, oherwydd inni gael yr arian pan darodd y pandemig, bu’n rhaid i ni newid ein syniad gwreiddiol.  Fe edrychon ni ar wersi y gallai'r diwydiant animeiddio eu dysgu o'r cyfnod clo a'r ffyrdd y llwyddodd y diwydiant i oroesi. 

Bu’n bosibl i’r diwydiant fod yn eithaf gwydn a symud i weithio o bell. Roedd yn foment o newid go iawn yr edrychom yn fanwl arni i ddod o hyd i arsylwadau. Er enghraifft, cafwyd ymateb cadarnhaol i weithio o bell, ond hefyd gwelwyd effaith gadarnhaol ar olion traed carbon. Ar ddiwedd y prosiect, fe wnaethom lunio adroddiad a phwyntiau dysgu, ond roedden ni eisiau mynd ymhellach. Dyna lle mae stori’r prosiect Green Cymru hwn yn dechrau. 

Roedden ni wedi nodi’r prif feysydd effaith carbon ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y maes animeiddio 

Gan ein bod wedi trafod piblinellau ac allyriadau carbon gydag aelodau'r diwydiant (pawb o weithwyr llawrydd i gwmnïau mawr), roedd gennym amgyffrediad da o’r sefyllfa bresennol o ran meysydd allyriadau carbon problematig. Roedd llawer o gwmnïau'n teimlo nad oedd ganddyn nhw'r amser na'r wybodaeth i wneud newidiadau eu hunain. Hefyd, roedd llawer o bobl yn teimlo nad oedd ganddyn nhw reolaeth dros yr adeiladau lle roedden nhw'n gweithio.  

Ffocws ein prosiect Cronfa Her Cymru Werdd oedd dod o hyd i ddatrysiadau i faterion o'r fath  

Dechreuon ni gydag ymchwil desg i edrych yn ddyfnach ar yr hyn oedd eisoes yn bodoli. Drwy sgyrsiau gyda phobl sy'n gweithio mewn gemau a VFX, gwelsom fod y diwydiannau hyn yn gweithio'n debyg i animeiddio, felly gallai'r atebion sy'n gweithio i un fod yn addas i'r llall. Gwnaethom ddatguddio’r prosesau, y mannau cyfyng ac awydd i newid ym mhob un o'r tri diwydiant.  

Gydag arbenigwyr, fe wnaethom adeiladu ein gwybodaeth am feysydd lle gallai fod atebion posib  

Roeddem wedi nodi y gallai cael gofod wedi’i osod yn benodol ar gyfer animeiddio fod yn ateb da. Ar sail hyn, fe siaradon ni â phobl oedd yn rhedeg gofodau gweithio ar y cyd i weld pa mor wyrdd oedden nhw, os oedden nhw'n anelu at sero net, pa atebion roedden nhw wedi eu hystyried neu beidio a pham – a mwy o gwestiynau ar hyd y llinellau hynny. 

Cynhaliom hefyd arolwg i gasglu data ar faint o wybodaeth oedd gan gwmnïau a gweithwyr llawrydd am eu hôl troed carbon eu hunain, a pha mor hawdd y gallent ei gyfrifo.  

Trwy gydol y prosiect, buom yn gweithio gydag ymchwilydd Jonny Campbell 

Cynhaliodd lawer o gyfweliadau ac ymchwil, gan ddefnyddio dull holistig i ddarganfod sut y gallai'r gweithle delfrydol ar gyfer cwmni animeiddio edrych, o ran ôl troed carbon. Rhannodd y weledigaeth hon yn bedwar maes ymchwil dyfnach: adeiladau a gofodau; y cyfleusterau y mae cwmni'n eu cynnig i staff ar y safle ac yn y cwmwl a'r effaith a gânt; diwylliant a chymuned sefydliad, a'u heffaith; allbwn creadigol cwmni, a phŵer y pethau mae'n eu gwneud. Rhoddodd hyn ddealltwriaeth i ni o'r hyn y gallai cwmnïau fod eisiau ei ddarparu er mwyn dod yn agosach at sero net. 

Ar ôl i ni nodi atebion ar gyfer pob maes, gwnaethom gynllunio gweithdy gyda PDR 

Gan ddefnyddio ein canfyddiadau, cynhaliodd PDR weithdy cyd-greu yng Ngŵyl Animeiddio Caerdydd 2022. Gweithiodd cynrychiolwyr o gwmnïau animeiddio, gweithwyr llawrydd ac academyddion gyda'i gilydd i ddylunio eu gofod sero net perffaith, gan ddefnyddio cwestiynau a sbardunau a ddyluniwyd gennym ni a PDR.  

Gwnaethant edrych ar bethau fel p’un a oedd rhai arferion eisoes ar waith o fewn llif gwaith eu cwmni, p'un a fydden nhw'n ystyried dewisiadau amgen, beth oedden nhw'n ei feddwl am rai opsiynau ac yn y blaen. Gwnaethom ymdrin â phopeth o opsiynau syml i gymhleth – er enghraifft goleuadau LED, cynlluniau storio beiciau, darpariaeth gofal plant mewn stiwdios, adfer gwres o storio data, pob math o bethau.  

Nodwyd llawer o bethau y gall pobl eu gwneud mewn gofod presennol i ostwng eu hôl troed carbon 

Fodd bynnag, mae pob math o rwystrau i gynnydd. Er enghraifft, mae llawer o'r cwmnïau yng Nghymru naill ai'n rhentu eu gofod ar brydles eithaf byr, neu mae ganddyn nhw berthynas gyda'r landlord sydd ond yn caniatáu iddyn nhw wneud pethau penodol, neu maen nhw mewn gofod gweithio ar y cyd lle gallai fod ganddyn nhw lai fyth o reolaeth. Mae'r cyfyngiadau hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i gwmnïau fynd i'r afael â'u hôl troed carbon. 

Rydym yn gwybod mai'r meysydd effaith carbon mwyaf mewn cwmni animeiddio nodweddiadol yw ei ofod ffisegol, ei biblinellau a theithio, ond does dim un ateb yn addas i bawb gan fod cymaint o ffyrdd gwahanol o weithio. O'r newidiadau posib y gellid eu gwneud, credwn y byddai mwy o bobl yn gwybod amdanynt ac y byddent yn cael eu cyflawni’n amlach pe bai pobl yn rhannu atebion â'i gilydd ac yn cwestiynu beth sy'n bosib.  

Mae'r Y&D yma wedi rhoi sylfaen gadarn i ni i gynnig cefnogaeth i gwmnïau 

Mae’n cynnwys popeth o'r enillion cyflym i'r nodau hirdymor yr ydym wedi'u nodi, wedi’u rhannu’n feysydd o effaith bosib. Mae cyfres o adnoddau ar ein gwefan hefyd ar gyfer y diwydiant i eu defnyddio am ddim.  

Rydym hefyd wedi sefydlu rhwydwaith animeiddio sy’n amddiffyn y blaned, sy'n ofod lle gall cwmnïau ddod at ei gilydd i rannu pethau maen nhw wedi'u dysgu, cael mynediad at ein hadnoddau, gofyn cwestiynau a chefnogi ei gilydd. Mae'r gofod hwnnw ar Discord ar hyn o bryd, ond rydyn ni'n gobeithio dod ag ef i'r byd ffisegol hefyd i'r rhai y byddai’n well ganddynt sgwrsio wyneb yn wyneb. 

I gwmnïau sydd eisiau ychydig mwy o gefnogaeth ar hyd eu taith i sero net, rydym wedi sefydlu gwasanaeth ymgynghori. Dangosodd ein prosiectau nad oes gan rai cwmnïau'r amser na'r adnoddau i weithredu newidiadau a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon, felly rydym yn cynnig ein gwasanaeth ymgynghori iddynt i'w helpu. 

Bydd y wybodaeth rydym wedi'i chasglu bob amser ar gael ar sail mynediad agored, felly gall y rhai sydd â'r amser a'r awydd i wneud newidiadau eu hunain gael yr adnoddau am ddim. Y cyfan rydym yn ei wneud yw ceisio cael cymaint o effaith ag y gallwn ni drwy ystod o atebion gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o bobl a chwmnïau. 

Mae’r strwythurau pŵer dros ofodau yn her go iawn 

Mae hynny'n rhywbeth yr hoffem fynd i'r afael ag ef mewn prosiect yn y dyfodol. A fydden ni'n gallu creu'r gofod delfrydol hwn, neu a fydden ni'n gallu cydweithio â gofod sydd eisoes yn bodoli i gyflawni sero net? Byddai'n ddiddorol ymchwilio i hyn, o ystyried yr hyn rydyn ni'n ei wybod nawr am leihau effeithiau hinsawdd o fewn y diwydiant animeiddio.