Frontgrid yw'r cwmni y tu ôl i ParadroPVR, profiad hedfan rhithwir o'r radd flaenaf. Mae'n cyfuno peirianneg yn seiliedig ar symud gydag amgylcheddau rhith-wirionedd i roi'r teimlad i bobl eu bod yn hedfan dros leoliad penodol (rhywbeth maen nhw wedi'i fathu'n 'hedfan ar sail lleoliad'), ac yna'n ychwanegu elfennau gemeiddio, naratif ac addysgol.

Enw ein prosiect oedd ‘Creating a virtual paradigm’

Roedd yn llythrennol yn ymwneud â chreu ffordd newydd o edrych ar y byd. Cyn hyn, roedd ein ffocws wedi bod bron yn llwyr ar gemau arcêd neu atyniadau canolfannau adloniant, ond roedden ni'n awyddus i edrych ar sut y gallen ni ddefnyddio'r gosodwaith fel cerbyd i gysylltu pobl â lleoedd yn y byd go iawn. Roedden ni'n meddwl os gellwch chi brofi rhywle mewn realiti rhithwir, pam na allai hwnnw fod yn lle go iawn? A hefyd, beth am ei ddefnyddio i ysgogi gweithredu cadarnhaol yn y byd go iawn?

Cawsom ni ganiatâd i osod dwy uned realiti rhithwir ym Mharc Antur Eryri.

Ar gyfer yr unedau hyn datblygon ni gynnwys pwrpasol yn benodol ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri. Aethon ni ati i greu cynrychiolaeth graffigol union mewn realiti rhithwir o'r parc cenedlaethol yn defnyddio rhywbeth o'r enw data LiDAR; mae'n ddull synhwyro o bell a ddefnyddir i archwilio arwyneb y Ddaear, a gellir defnyddio'r canlyniadau i greu modelau 3D. Rhoddodd y data LiDAR hwn ddarlun sylfaenol o'r tir i ni, a dyna oedd grid sylfaen y byd a adeiladon ni.  Defnyddion ni feddalwedd injan gêm (Unreal Engine) i osod pethau fel gweadau ar y grid. Er enghraifft roedden ni'n gallu ychwanegu gwead glaswellt i lethrau neu adlewyrchiad o'r awyr mewn llynnoedd.

Gyda chyllid Clwstwr roedd modd i ni fynd drwy broses ymchwil addas.

Ystyrion ni'r holl gyfleoedd posibl ar gyfer pwyntiau cyffwrdd ar hyd taith y cwsmer yn y profiad, a'r ffyrdd y gallai'r profiad ddysgu rhywun am le yn y byd go iawn. Roedd y rhain yn cynnwys ystyriaeth o'r hyn mae defnyddwyr yn ei weld wrth sefyll yn y ciw, sut beth yw rhyngwyneb y defnyddwyr, sut maen nhw'n mynd ar y reid, beth yw'r union brofiad a beth maen nhw'n ei gofio.

Ymgynghorwyd gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys grŵp marchnata'r cyrchfan yn lleol, i nodi anghenion y parc. Casglwyd llawer o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu ynghyd, fel gor-dwristiaeth ar yr Wyddfa ac anghenion pobl leol yn agos i fannau twristiaeth prysur y parc. Ffurfiodd y rhain nodau y gallem ni weithio tuag atyn nhw wrth ddatblygu ein profiad VR wedi'i gemeiddio.

Ymchwiliwyd i gemau sy'n bodoli a mecaneg gemau a ddefnyddir i gysylltu pobl â'r byd go iawn

O gemau fideo i gemau symudol, roedd enghreifftiau i'w cael o archwilio mannau a lleoedd drwy gemau. Ymchwilion ni i'r ffordd y gall y profiad gysylltu pobl gyda rhywle, ac y gallent ei gyffwrdd neu ei weld, yn hytrach na dim ond clywed disgrifiad, i gyfoethogi dysgu. Ar ôl i ni fapio pwyntiau cyffwrdd taith y cwsmer ac archwilio'r holl ffyrdd gwahanol y gallen ni eu defnyddio i ddylanwadu ar bobl, lluniwyd rhestr fer o’n deilliannau dysgu.

Grwpiwyd ein canlyniadau mewn themâu

Roedd y themâu yn cynnwys cyfeiriadedd, dysgu pobl am ddaearyddiaeth leol, hanes lleol, yr amgylchedd, mythau a chwedlau lleol a diwylliant lleol. Ystyriwyd hefyd sut y byddai'r gemau'n cael eu fframio, e.e. a fydden nhw'n gemau rasio, gemau helfa drysor neu gemau bagio brig (lle rydych chi'n 'bagio' pob copa rydych chi'n ei gyrraedd). Gosodwyd tair gêm y gellid eu datblygu, eu profi a'u hoptimeiddio ar restr fer. Talodd y cyllid cyfunol am y gwaith o greu tair gêm profi cysyniad i'w lansio i'r cyhoedd.

Roedd y gêm gyntaf yn gyflwyniad i Eryri drwy gyfeiriadedd

Cewch eich cenhedlu uwchlaw'r Wyddfa, fel eich bod yn teimlo eich bod yn hedfan dros y mynydd. Rydych chi'n gweld y mynyddoedd i gyd, wedi'u labelu, yn ogystal â nodweddion mawr (fel y môr) a chwmpawd ar gyfer cyfeiriadedd. Mae'n ymwneud â chrwydro a dod i adnabod gorweddiad y tir, gyda chymorth troslais sy'n darparu gwybodaeth.

Roedd yr ail gêm yn ceisio mynd ati'n dawel i atal gor-dwristiaeth ar yr Wyddfa

Roedd yn ymwneud â dilyn Llwybr y 14 Copa 3000 yng Nghymru (mynyddoedd yng Nghymru sydd yn 3000 troedfedd neu fwy o uchder), sydd oll yn Eryri. Y nod oedd gwneud llwybr y mynydd yn haws i bobl ei grwydro drwy VR, ond hefyd i ddangos bod llawer mwy opsiynau ar wahân i'r Wyddfa os ydych chi am gerdded yn y mynyddoedd.

Mae'r 14 copa wedi'u gwasgaru ar draws tair cadwyn o fynyddoedd (Massif yr Wyddfa, y Glyderau a'r Carneddau). Defnyddiwyd gemeiddio i'w harchwilio oddi uchod. Gallai defnyddwyr 'fagio' copaon drwy hedfan drwy gylchoedd yn yr awyr, gan ddysgu'n isymwybodol am orweddiad y tir a'r amrywiol fynyddoedd sydd ar gael. Ychwanegon ni ymarfer dysgu drwy roi taflen waith ar hanes y mynyddoedd a chyngor ar sut i deithio'n gyfrifol yn y parc.

Roedd y drydedd gêm yn dangos beth fyddai'n digwydd os byddech chi'n hedfan yn y nos

Fe'i hysbrydolwyd gan sgyrsiau gydag awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae Eryri yn Barc Cenedlaethol Awyr Dywyll, sydd wedi'i achredu fel un sydd â lefelau isel iawn o lygredd golau. Caiff camau rhagweithiol eu cymryd i leihau a chynnal llygredd golau, sy'n golygu mai dyma un o'r mannau gorau i weld y sêr, ac roedden ni am ddangos y nodwedd hon yn yr ardal.

Roedd defnyddwyr yn gallu hedfan drwy'r awyr uwchlaw Eryri tuag at y cytserau, a osodwyd fel atgynhyrchiad union o'r ffordd y byddai'r cytserau'n ymddangos dros y mynyddoedd ar ddyddiad penodol. Wrth i chi hedfan heibio'r cytserau, rydych chi'n cael gwybodaeth amdanyn nhw. Wedyn roedd taflenni gwaith i chi eu defnyddio i ddysgu mwy os oeddech chi'n dymuno.

Helpodd y broses ni i ddod o hyd i ffyrdd hwyliog o gyfleu gwybodaeth addysgol

Roedden ni am greu rhywbeth difyr ac addysgol. Galluogodd y cyfnod ymchwil a datblygu ni i ddod o hyd i ffyrdd o gyflwyno negeseuon a galwadau i weithredu mewn ffordd gynnil. Gobeithio y gall defnyddwyr gymryd y pethau maen nhw'n eu dysgu wrth chwarae a gwella eu gweithredoedd yn y byd go iawn. Roedd yn brosiect prawf cysyniad llwyddiannus.

Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y gyllid Clwstwr

Aeth y cyllid yn bell; fe'i defnyddiwyd i greu'r tair gêm a chynhyrchu papurau ymchwil cysylltiedig. Gwnaeth i ni ehangu ein set sgiliau, dysgu am opsiynau eraill y gallen ni eu hymgorffori, meddwl am bethau'n wahanol ac agor ein potensial ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol yn y diwydiant profiad VR.

Yn bwysicaf oll, roedd yn gyfle i ni gynnal profion defnyddwyr a dadansoddi'r canlyniadau. Defnyddiodd cymaint o bobl o wahanol grwpiau oedran y gosodweithiau. Casglwyd adborth ansoddol yn bennaf ganddyn nhw, er bod gennym ni rywfaint o ddata meintiol, a gyfrannodd at ddogfen strategaeth yn cwmpasu'r holl ddysgu a syniadau. Mae wedi siapio cyfeiriad y cwmni'n llwyr, gan ein sbarduno i greu mwy o fannau VR wedi'u hysbrydoli gan leoedd yn y byd go iawn.