Ym mis Mehefin 2022, teithiodd aelodau o dîm Clwstwr a dirprwyaeth o brosiectau Clwstwr i Bergen yn Norwy i gymryd rhan yn yr ŵyl gyfryngau flynyddol, Wythnos y Dyfodol.

Mae Wythnos y Dyfodol yn cael ei chynnal gan Media City Bergen, sy'n arwain y byd ym maes realiti estynedig, graffeg, deallusrwydd artiffisial, stiwdios rhithwir, fideo darlledu ac IP, roboteg ac offer ar gyfer llif gwaith ac adrodd straeon gweledol.

Ffurfiodd Clwstwr a Media City Bergen bartneriaeth strategol yn 2021 i greu cysylltiad rhwng y ddau glwstwr cyfryngau bywiog a'u busnesau, gyda'r nod o feithrin cydweithrediadau.

Yn dilyn digwyddiadau ar-lein ar y cyd yn ystod pandemig COVID-19, fel Arloesedd mewn Newyddion a Democratiaeth mewn Clystyrau Cyfryngau, y cam nesaf oedd mynd ag arloeswyr o Gaerdydd i Bergen.

Gwnaeth Azize Naji (Goggleminds), Lewis Vaughan-Jones (Lewnah), Lucy Young (AMPLYFI) a Richard King geisiadau llwyddiannus i fynd, gan gyrraedd  Bergen mewn cyfnod anarferol o gynnes (a sych!) am wythnos o edrych i'r dyfodol gyda Robin Moore o Dîm Rheoli Clwstwr a'r Athro Justin Lewis, yr Athro Sara Pepper a Kayleigh McLeod o dîm Clwstwr. Roedd aelod o garfan Clwstwr, Shirish Kulkarni, hefyd yn y ddinas - yn cyflwyno’r gynhadledd MCB Fact gyntaf, a oedd yn canolbwyntio ar drechu twyllwybodaeth - ar ôl bod yn brif siaradwr yn Wythnos y Dyfodol 2021 gyda Journalism is for citizens, not for journalists.

Yn ystod yr wythnos, aeth y cynrychiolwyr i weithdai, cyflwyniadau a seminarau a oedd yn ystyried dyfodol y cyfryngau a thechnoleg yn y maes. Yng nghanol yr wythnos ac yng nghanol atriwm mawr a dyfodolaidd Media City Bergen, gwnaeth y cynrychiolwyr ac aelodau o dîm Clwstwr gyflwyniadau ar Gyflymu arloesedd y cyfryngau yng Nghaerdydd.  

Bu Azize Naji, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Goggleminds, yn myfyrio ar y cyflwyniad. Dywedodd: “Roedd yn anrhydedd i ni gael cyfle i fod ar lwyfan byd-eang i siarad am y gwaith ymchwil a datblygu rydyn ni wedi’i wneud drwy ein prosiectau Clwstwr.

“Rhoddodd ein taith i Bergen syniad i ni o sut mae sefydliadau byd-eang yn defnyddio technoleg i ddod â gwasanaethau a chynhyrchion gwell i bobl. Efallai mai’r peth mwyaf diddorol oedd sut mae rhai o'r sefydliadau hyn yn defnyddio technoleg sy'n dod i'r amlwg, fel deallusrwydd artiffisial, i wneud gwaith sy’n fuddiol o safbwynt cymdeithasol. Mae cael effaith gadarnhaol ar y byd yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i ni yn Goggleminds ac mae'r ffordd rydyn ni’n datblygu ein technoleg yn cael ei harwain gan ein hawydd i wella pethau. Roedd yn gyffrous, felly, cael syniadau, safbwyntiau a chysylltiadau busnes newydd.

Azize Naji from Goggleminds showing a male attendee of ClwstwrVerse how their product works

“Rydyn ni’n bwriadu ymweld eto rywbryd yn 2023 i ddatblygu partneriaethau newydd gyda darparwyr gofal iechyd yn Norwy, rhywbeth sy’n bosibl o ganlyniad i’r cysylltiadau newydd rydyn ni wedi eu ffurfio. Roedd y daith hyd yn oed yn well nag oedden ni’n disgwyl, ac roedd teithio gyda’r grŵp yma o gynrychiolwyr yn brofiad arbennig iawn.”

Darllenwch fwy am brosiect Clwstwr Gogglemind, Ymchwilio i’r defnydd o dechnoleg drochol i ddarparu hyfforddiant yn y sector gofal iechyd:

 https://clwstwr.org.uk/cy/prosiectau/ymchwilio-ir-defnydd-o-dechnoleg-drochol-i-ddarparu-hyfforddiant-yn-y-sector-gofal

Mae Lucy Young, Pennaeth Cyflenwi SaaS, yn AMPLYFI yn hyderus y bydd y daith yn arwain at fentrau cydweithredol newydd ar gyfer y cwmni deallusrwydd artiffisial hefyd.

Dywedodd: “Roedd yn bleser ymuno â dirprwyaeth Clwstwr i Wythnos y Dyfodol gan Media City Bergen. Roedd y gynhadledd ei hun yn llawn cyflwyniadau diddorol. Gan fod AMPLYFI yn gwmni sy'n dadansoddi ac yn delweddu llawer o ddata, roedd gen i ddiddordeb arbennig mewn clywed am sut mae newyddiaduraeth data'n cael ei defnyddio ar hyn o bryd a sut mae'n esblygu. Fe wnaeth hyn ddangos i mi pa mor bwysig yw gwneud data'n hygyrch ac yn ddealladwy yn y cyfryngau ac, o safbwynt arloesi, rhoddodd ddigonedd o syniadau i mi ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol yn y maes yma. 

Lucy Young form Amplyfi speaking on stage at Future Week.

“Bydd y cysylltiadau a wnes i yn ystod y gynhadledd yn hanfodol i fynd ar drywydd y cyfleoedd hynny yn y dyfodol. Fel cwmni sydd wedi datblygu technoleg arloesol, mae'n bwysig iawn gallu cydweithio â phobl ym myd diwydiant i archwilio a phrofi syniadau newydd. Roedd y daith hefyd yn gyfle gwych i ddod i adnabod rhai o’r bobl eraill sy’n rhan o’r Clwstwr. Yng nghanol awyrgylch arloesol y gynhadledd, cafwyd llawer o sgyrsiau creadigol - mae gan rai ohonyn nhw lawwer o botensial ar gyfer cydweithio yn y dyfodol agos (cadwch lygad am hyn!).”

Darllenwch am daith Clwstwr AMPLYFI yma:

https://clwstwr.org.uk/cy/amplyfi-defnyddio-ai-fel-llwybr-carlam-ar-gyfer-newyddiaduraeth-ymchwiliol

Mae Clwstwr yn edrych ymlaen at groesawu Kristoffer Hammer o Media City Bergen a Leif Ove Larsen, Pennaeth Gwyddor Gwybodaeth ac Astudiaethau'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bergen i Gaerdydd ym mis Medi i barhau â’r sgyrsiau am waith ym maes y cyfryngau a phobl ifanc, a ddechreuodd yn Bergen.

Os hoffech chi ddatblygu cysylltiadau â’r clwstwr cyfryngau yn Norwy a fyddai'n fuddiol i'ch busnes, anfonwch ebost at: clwstwrcreadigol@caerdydd.ac.uk gyda throsolwg byr o pam rydych chi am gydweithio yn Norwy a, lle bo modd, enwau sefydliadau a busnesau yr hoffech gael eich rhoi mewn cysylltiad â nhw.