O’r 20fed o fis Medi 2021 ymlaen, bydd £50,000 ar gael i fusnesau bach a chanolig y sector creadigol Cymreig diolch i bartneriaeth newydd rhwng Clwstwr ac Amgueddfa Cymru.

Caiff y Gronfa Her ei dyrannu i gefnogi gwaith ymchwil a datblygu i ffyrdd arloesol o brofi a rhyngweithio â chasgliadau Amgueddfa Cymru, yn lleol ac yn fyd-eang.

Dyma gyfle i weithio gydag Amgueddfa Cymru i alluogi defnyddwyr ac ymwelwyr i ddarganfod a dehongli straeon Cymru - yn ddigidol ac yn gorfforol - ble bynnag y byddwch chi yn y byd.

Nod Amgueddfa Cymru yw ysbrydoli pobl a newid bywydau, gan sicrhau fod diwylliant yn hygyrch i bawb. Rydym yn gwahodd pawb i chwarae rhan weithredol wrth greu hanes Cymru. Mae hyn yn golygu y caiff unrhyw un gael blas ar Amgueddfa Cymru yn eu dewis ddull - wyneb yn wyneb neu'n ddigidol, ac yn ein hamgueddfeydd neu yn eu cymunedau.

Meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus Amgueddfa Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd o gael gweithio gyda Clwstwr. Bydd y Gronfa Her yn dod ag Amgueddfa Cymru a'r diwydiannau creadigol yng Nghymru ynghyd gan roi cyfle i ni weithio gyda thechnoleg ac arloesedd sydd ar flaen y gad."

Mae Clwstwr yn annog pobl greadigol i adael i'w syniadau ffynnu trwy wneud gwaith ymchwil a datblygu ar gyfer cynhyrchion, syniadau a phrofiadau newydd yn y sector sgrin.

Meddai Adam Partridge, Cynhyrchydd ac arweinydd partneriaethau Clwstwr: "Rydyn ni'n croesawu'r bartneriaeth newydd hon ag Amgueddfa Cymru a'r cyfle i gysylltu hyd yn oed mwy o bobl greadigol yn y sector treftadaeth. Trwy'r Gronfa Her a chefnogaeth gofleidiol Clwstwr ar gyfer ymchwil a datblygu, rydyn ni'n rhagweld y daw llawer o syniadau gwych i'r fei fydd yn gwthio ffiniau ein profiad o amgueddfeydd, nawr ac yn y dyfodol."

Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y Gronfa Her o 20 Medi 2021 ymlaen. Yna caiff ymgeiswyr eu gwahodd i ddatblygu eu syniadau mewn Gweithdy Her ymarferol cyn cwblhau cais ffurfiol.

Erbyn mis Tachwedd 2021, bydd dau dîm llwyddiannus yn cael hyd at £25,000 yr un i ymchwilio, datblygu a gweithredu eu projectau arloesol erbyn mis Mawrth 2022. Dylai syniadau fod yn fodiwlaidd, gyda modd eu tyfu yn unol ag anghenion ac yn cynnwys elfen gref o gydguradu. Bydd y timau llwyddiannus yn cael mynediad at adnoddau diwylliannol dihafal Amgueddfa Cymru i'w helpu ar hyd y broses.