Mae Lauren Orme yn fenyw brysur, greadigol. Yn ogystal â bod yn gyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol cwmni animeiddio Picl, mae'n arwain y tîm sy'n trefnu dangosiadau Nosweithiau Animeiddio Caerdydd (sefydlwyd yn 2014) bob dau fis, a Gŵyl Animeiddio Caerdydd (sefydlwyd yn 2018) bob dwy flynedd. 

Ymgeisiodd Lauren drwy'r Ŵyl am gyllid sbarduno Clwstwr er mwyn canfod pa mor wyrdd yw'r diwydiant animeiddio ac a ellir cynnal gwyliau animeiddio mewn ffordd sy'n ymwybodol o'r hinsawdd. Doedd dim modd cynnal Gŵyl Animeiddio Caerdydd 2020, oedd i fod i ddigwydd fis ar ôl i'r DU ddechrau ar gyfnod clo cenedlaethol, felly unodd Lauren ei phrosiect Ymchwil a Datblygu Clwstwr â'i hymdrechion i symud yr ŵyl ar-lein. 

'Mae argyfwng yr hinsawdd yn agos iawn at fy nghalon; mae gennym ni gyfrifoldeb mawr i wneud yr hyn a allwn i'w liniaru,' dywed Lauren. 'Rwyf i bob amser wedi poeni am faint o ynni sy'n cael ei ddefnyddio a faint o wastraff sy'n cael ei greu mewn gwyliau. Mae pobl yn hedfan draw i siarad, cynrychiolwyr yn teithio i wylio, rydych chi'n cynhyrchu llawer o stwff sy'n ddiangen ar ôl yr wyl... dyw pethau ddim yn teimlo'n wyrdd iawn ar brydiau.' 

'Sylweddolais y gallem ni ddefnyddio'r amser roedd pobl wedi'i archebu i ddod i'r ŵyl i ddatgelu datrysiadau posibl. Gallem ni ddod â phobl ynghyd i feddwl a siarad am yr amgylchedd, y cyfleoedd sydd gennym ni i leihau effaith y diwydiant ar yr amgylchedd a sut i ddefnyddio ein rôl fel storïwyr i annog pobl i fod yn fwy gwyrdd.' 

Un o'r pethau cyntaf i Lauren ei wneud oedd trefnu digwyddiad hinsawdd ar-lein: Cynulliad Hinsawdd Gŵyl Animeiddio Caerdydd. Mwynhaodd y cynrychiolwyr sgyrsiau a sesiynau trafod.  

'Cyflwynodd Emma Peddie o BAFTA Albert sgwrs wych yn llawn ystadegau am effeithiau'r diwydiant teledu a ffilm ar yr hinsawdd, ond does fawr o ddata ar gael ar hyn o bryd yn benodol am animeiddio. Dywedodd Emma: 'allwch chi ddim rheoli'r hyn na allwch ei fesur.' Roedd hynny'n ddigon i fi ddechrau meddwl sut y gallen ni fesur effaith y diwydiant, er mwyn i ni allu ei reoli.  Roeddwn i'n amau ei fod yn is na theledu a ffilm, ond roedd angen cadarnhad.' 

Ar ôl y Cynulliad Hinsawdd, magodd tîm Gŵyl Animeiddio Caerdydd hyder yn eu gallu i redeg digwyddiad ar-lein gan ymroi i ddod o hyd i ffordd i ailddyfeisio'r ŵyl ar-lein. 

'Drwy ddatblygu digwyddiadau ar-lein sylweddolon ni pa mor isel eu heffaith a hygyrch y gallan nhw fod o'u cymharu â digwyddiadau all-lein. Rwy'n credu y gallai gwyliau fel ein un ni edrych yn wahanol iawn yn y dyfodol, efallai am byth. Byddai cyfuniad o fynediad ar-lein ac all-lein yn caniatáu i fwy o bobl fod yn rhan o'r ŵyl heb achosi mwy o effaith ar yr amgylchedd.'  

I gloi ei phrosiect Clwstwr, cynhaliodd Lauren astudiaeth fach ar effaith amgylcheddol y diwydiant animeiddio cyn y pandemig, yn ystod y cyfnod hwnnw ac wedyn. Gofynnodd i dri chwmni animeiddio yng Nghaerdydd - Cloth Cat AnimationBomper Studio, a'i chwmni ei hun, Picl Animation - holi set o gwestiynau i'w gweithwyr a mesur eu defnydd o ynni. 

'Gofynnon ni gwestiynau ar sut mae gweithwyr yn teithio i'r gwaith, faint o bobl sy'n gweithio ar bob prosiect, a ydyn nhw'n teithio i gyfarfodydd a sut, eu defnydd o ynni ar gyfartaledd yn eu pencadlys, defnydd y tîm o ynni wrth weithio gartref... roedd yn eithaf eang er mwyn rhoi darlun cyflawn ac roedd y canlyniadau'n amrywio. Er enghraifft, mae gan Cloth Cat waith yn Tsieina sydd wedi golygu teithio yno'n rheolaidd, ond dyw Picl na Bomper Studio ddim yn mynd i unman mor bell â hynny i weithio.' 

Ar gyfer y tair stiwdio, canfu Lauren fod gan animeiddio effaith lawer is na'r cyfartaledd ar gyfer cynhyrchu teledu a ffilm. Hefyd, mae ei ffigurau'n awgrymu y byddai'r effaith yn ystod y pandemig ac wedi hynny hyd yn oed yn is na chyn y pandemig oherwydd bod y diwydiant animeiddio wedi gallu gweithio gartref - rhywbeth nad oedd mor ymarferol ar gyfer teledu a ffilm. 

'Cyhoeddais ganfyddiadau'r archwiliad mewn adroddiad o'r enw '11 Lessons From Lockdown' - fersiwn gryno yn ogystal â fersiwn PDF fanylach. Rwy'n sylweddoli y byddai angen i ni gynnal archwiliad mwy o faint yn cynnwys mwy o gwmnïau i gael darlun gwirioneddol gynrychioliadol, ond gobeithio y gall cwmnïau animeiddio ddefnyddio ein hadroddiad fel adnodd i wella eu heffaith amgylcheddol ac i'w cael i feddwl am ffyrdd mwy gwyrdd o gynhyrchu cynnwys.' 

Mae'r prosiect wedi cryfhau angerdd Lauren dros ymwybyddiaeth o'r hinsawdd yn y diwydiant animeiddio. 

'Hoffwn wneud mwy o waith ac ymchwil i barhau â'n gwaith Clwstwr. Rwyf i am ystyried sut mae'r byd yn edrych nawr, a beth allai fod yn llwybr ymlaen – a fydd mae'n debyg yn wahanol i sut oedd pethau cyn i fi ymgeisio am fy nghyllid sbarduno. Efallai y gallem ni sefydlu ymgynghoriaeth ryw ddydd i helpu cwmnïau animeiddio eraill i fabwysiadu arferion gwyrdd. Am y tro, byddaf yn cadw diddordeb ac yn gweithio gyda chyn lleied o effaith â phosibl.'