Cardiff Productions

Cwmni cynhyrchu cynnwys teledu wedi ei leoli yng Nghaerdydd yw Cardiff Productions.

Cafodd fy nghais i Clwstwr ei ysbrydoli gan daith trên

Roeddwn i ar y trên o Lundain i Gaeredin, ac wrth i'r trên fynd i fyny arfordir dwyrain Lloegr, sylwais ar hysbysfwrdd electronig wedi'i osod ar ddiwedd fy ngherbyd trên. Roedd yn dweud pethau fel, 'Byddwn yn cyrraedd Efrog mewn 22 munud' ac wrth i ni gyrraedd Efrog byddai'n dweud 'Trenau i Fanceinion, platfform 15; Scarborough platfform 7' ac ati.

Sylweddolais fod system negeseuon y trên yn ymwybodol o wybodaeth ddaearyddol cyd-destunol, a’i bod yn rhoi gwybodaeth a oedd yn benodol i'r lleoliad a’r amser. Ychydig ymhellach i fyny'r arfordir, aethom heibio Angel y Gogledd. Fe wnaeth hyn i mi feddwl pa mor dda fyddai hi pe gallai negeseuon y trên fod wedi rhoi ychydig o wybodaeth i mi am yr hyn roeddwn i’n ei weld drwy’r ffenest, neu efallai ychydig o wybodaeth am y lleoedd roeddwn i’n teithio drwyddyn nhw.

Fel rhywun sydd â diddordeb mewn arloesedd a phosibiliadau, cefais fy ysbrydoli

I weld a fyddai'n bosibl creu a chyflwyno gwybodaeth ac adloniant i bobl ar drên yn seiliedig ar y cyd-destun daearyddol, dechreuais ar fy mhrosiect Tunnel Vision. Fe wnaethon ni gynnal astudiaeth ddichonoldeb gyda chyfanswm cyllideb o £15,000, a chafwyd £10,000 o’r arian hwnnw gan Clwstwr. Roeddwn i am ddeall yn well a fyddai'r syniad hwn yn bosibl ar drenau yng Nghymru, ac, os felly, pa wybodaeth ac adloniant y gellid ei ddarparu a faint o alw fyddai ymhlith y gynulleidfa (os o gwbl).

Roedd y broses yn cynnwys dau faes ymchwil

Roedd yr elfen dechnegol yn edrych ar y sefyllfa o ran technoleg ar gyfer darparu data daearyddol cyd-destunol i drên, a rhagweld lle'r oedd y dechnoleg yn mynd i fynd. Roedd yr elfen gynulleidfa yn edrych ar beth yw’r gwahanol anghenion cynulleidfa ar drenau yng Nghymru - beth yw'r ffordd orau o wasanaethu teithwyr a beth fydden nhw ei eisiau.

Dechreuodd yr elfen dechnegol drwy edrych ar bwy sy'n gweithredu trenau yng Nghymru

Edrychais ar y sefyllfa o ran WiFi ar y trenau hyn. Roeddwn i wedi cael profiad o fod ar brif linell rheilffordd arfordir gorllewin Lloegr rhwng Llundain a Glasgow, lle roeddwn i’n gallu mewngofnodi ar unwaith a ffrydio heb unrhyw oedi ar y cysylltiad gan fod gweinydd yn y cerbyd. Roedd gwasanaethau tebyg hefyd yn cael eu darparu ar drenau cymudwyr yng nghanolbarth Lloegr.

Fodd bynnag, yng Nghymru, nid oedd yr un lefel o fuddsoddiad. Pan oedd gan drenau WiFi, roedd y WiFi hwnnw’n dibynnu ar gysylltiad â lloeren, a oedd yn golygu y byddai teithwyr yn gorfod byffro ac yn colli eu cysylltiad o bryd i’w gilydd. Mae hyn yn arbennig o wir o ganlyniad i dirwedd Cymru. Ar y pryd, roedd Trafnidiaeth Cymru wrthi’n moderneiddio eu fflyd, ac roeddwn i wedi meddwl y gallai hynny gynnwys diweddaru'r WiFi i wasanaeth gwell, ond ni chafodd y WiFi ei wella gan y byddai'n costio gormod.

Edrychwyd hefyd ar y ddarpariaeth WiFi mewn gorsafoedd a’r nifer sy’n manteisio ar docynnau digidol

Roedd Trafnidiaeth Cymru'n gwthio pobl tuag at brynu e-docynnau drwy eu ffonau am ei bod yn ei gwneud yn haws iddyn nhw reoli nifer y teithwyr yn ystod pandemig COVID-19. Fe wnaeth hyn i ni feddwl sut y gallai'r gwaith hwn i hyrwyddo e-docynnau gael ei ddefnyddio yn y maes digidol, a fyddai'n fuddiol ar gyfer ein cynnig ni.

Roedd rhan dau, yr elfen gynulleidfa, yn cynnwys siarad â grwpiau cludiant teithwyr yng Nghymru

Mae gan bob llinell reilffordd yng Nghymru grŵp cludiant teithwyr, lle mae teithwyr ymroddedig yn rhoi eu hadborth am y gwasanaethau. Mae gan bob llinell ei hamcan ei hun. Er enghraifft, amcan llinell Calon Cymru oedd annog pobl i dreulio mwy o amser yn y pentrefi ar hyd y daith. Roedden nhw'n cynghori teithwyr am yr hyn y gallen nhw ei wneud yn yr ardaloedd o amgylch y gorsafoedd ar eu llinell, er enghraifft ble i ddod oddi ar y trên er mwyn gallu mynd ar daith gerdded chwe milltir ac yna mynd ar y trên eto i ddychwelyd i'r man cychwyn. Roedd hyn yn cyferbynnu â nod y trenau drwy ardal y cymoedd yn ne Cymru, a oedd yn canolbwyntio ar gymudwyr a nifer y cymudwyr, neu wasanaethau Caergybi a oedd yn canolbwyntio ar dwristiaid a theithwyr.

Mewn theori, gallai trenau gefnogi'r nodau hyn drwy ddefnyddio gwybodaeth lleoliad daearyddol gyd-destunol i wthio teithwyr tuag at nodau'r cwmni. Felly, ar linell Calon Cymru, gallent gael llyfrau llafar thematig gyda straeon o'r rhanbarth neu gan awduron rhanbarthol i bobl wrando arnynt tra'u bod yn teithio o un orsaf i'r nesaf. Neu gallent gael sgriniau neu gynnwys cysylltiedig sy'n arddangos gwybodaeth am dirnodau ar hyd taith y trên. Mae pobl ar deithiau hirach eisiau adloniant, tra bod cymudwyr eisiau gwybod statws y trên neu'r bws nesaf maen nhw'n gobeithio ei gael. Fe wnaethon ni hefyd gynnal grwpiau ffocws gyda chymudwyr a theithwyr hamdden i ddeall beth fyddai ganddyn nhw ddiddordeb ynddo fwyaf. 

Mae'n bosibl darparu cynnwys cyd-destunol i drenau Cymru, ond nid yw’r dechnoleg yn ddelfrydol ar gyfer hynny

Nid oes modd i bobl ar y trenau na'r gorsafoedd fewngofnodi i WiFi a chael profiad gwylio di-dor. Nid oedd yr ochr isadeiledd technoleg yn barod.

At hynny, o ran ymddygiad y gynulleidfa, fe wnaethon ni ddarganfod bod y rhan fwyaf o bobl sy’n mynd ar deithiau hir yn lawrlwytho pethau i'w gwylio ar y trên cyn iddynt adael eu cartref. Hefyd, ar drenau cymudwyr, mae pobl yn sefyll i fyny, felly maent yn tueddu i ddefnyddio eu ffonau ar gyfer sain yn hytrach na fideo. Felly, roedd rhywfaint o werth i rai cynulleidfaoedd o ran y cynnwys arfaethedig, ond roedd yn gyfyngedig.

Cawsom syniad ar gyfer rhywbeth a allai fod yn sail i fusnes gwahanol iawn

Mae tocyn trên yn dweud wrthych ble bydd rhywun ar ddiwrnod penodol, ar adeg benodol. Yn yr oes analog roedd y wybodaeth hon yn gyfyngedig ac yn ddarniog, ond yn yr oes ddigidol mae ganddi werth - mae'n creu cyfle i dargedu teithwyr gyda hysbysebion gwybodaeth ddaearyddol gyd-destunol, ar adeg benodol ac mewn lleoliad penodol, sy'n ei gwneud yn hynod berthnasol.

Petaech yn archebu tocyn trên i Gaerdydd i gyrraedd am 12.15 ddydd Mercher, gallai cwmnïau ddefnyddio'r wybodaeth i gynnig cynigion cinio hyperleol i chi, tacsi i gwrdd â chi yn yr orsaf, neu opsiynau am fwyd ger eich gorsaf olaf er mwyn i chi allu cael rhywbeth i fynd. Bydd y gwaith i annog teithwyr i ddefnyddio e-docynnau yn creu'r amgylchedd defnyddiwr hwn beth bynnag, a byddai'n ddefnyddiol i gymudwyr a theithwyr hamdden.

Hoffwn wneud ymchwil pellach i'r syniad hwn. Efallai na fydd gen i'r amser fy hun, felly rwy'n mynd i weithio gyda datblygwr apiau ifanc i greu prototeip a llunio cynnig gwerth.