Sut mae Jo. Sut byddech chi'n disgrifio Bright Branch Media a’r hyn mae'n ei wneud?

Cwmni cynhyrchu annibynnol o’r radd flaenaf o Gymru yw Bright Branch Media ac mae dwy ran benodol yn perthyn i'r busnes. Cwmni cynhyrchu ydyn ni sy'n creu rhaglenni dogfen ffeithiol ar gyfer sianeli teledu a fideo ar alw (VOD). Rydyn ni hefyd yn asiantaeth greadigol sy'n creu rhaglenni y tu ôl i'r llenni a chynnwys cymdeithasol ar gyfer rhai o'r dramâu mwyaf yn y DU. Busnes blaengar ydyn ni ac felly rydyn ni’n croesawu technoleg ac yn chwilio byth a hefyd am ffyrdd o allu arloesi.

Sut daethoch chi i wybod am gyllid Clwstwr?

Roedd digwyddiad lansio ar gyfer Clwstwr a gwir gyffro yn niwydiant y cyfryngau yng Nghymru am y peth. Ymchwiliais i'r sefydliad ar-lein gan gyflwyno cais.  Yna cysylltodd un o'r cynhyrchwyr â mi, sef Greg Mothersdale, a chawson ni sgwrs am amcanion y Clwstwr a sut mae’n gweithio.

Beth oedd wedi’ch ysbrydoli i wneud cais am gyllid?

Roedd gen i syniad ro’n i eisiau ei ddatblygu’n fawr iawn i weld a fyddai'n dechnegol bosibl. Gan mai cwmni bach annibynnol ydyn ni, does gyda ni mo’r cyllid i allu neilltuo arian at ddibenion syniad mawr o'r fath; roedd cyllid Clwstwr yn hollbwysig o ran ei wireddu

Esboniwch am yr hyn yr oeddech chi’n bwriadu ei wneud yn eich cais

Ro’n ni eisiau ystyried a fyddai modd inni greu drama ryngweithiol fyw y byddai'r gynulleidfa'n gallu cymryd rhan ynddi gartref, a hynny mewn amser real. Cawson ni £70,600 o gyllid i weld beth oedd yn bosibl.

Disgrifiwch y broses rydych chi wedi bod drwyddi ers derbyn y cyllid

Aethon ni ati i greu ac arbrofi’r dechnoleg, a hynny’n llwyddiannus. Bellach, mae’n rhaid inni chwilio am bartner a all helpu i ddatblygu'r dechnoleg ymhellach. Unwaith y byddwn ni wedi gwneud hynny, byddwn ni’n ceisio masnacheiddio'r dechnoleg a grëwyd gennym yng nghyfnod ymchwil Clwstwr.

Yn eich barn chi, beth oedd prif ddeilliannau'r gwaith ymchwil a datblygu?

Mae gennym brototeip sicr y gellir ei ddatblygu ymhellach. Rydyn ni wedi dysgu ei bod yn ddoeth, wrth ymgymryd â syniad mor arloesol, eich bod yn partneru â chwmni sydd â'r gallu technegol i wireddu eich gweledigaeth. 

Beth yw’r prosiect nesaf, yn dilyn y gwaith ymchwil a datblygu?

Pan fydd yr amser gyda ni a phan fydd y buddsoddiad neu’r bartneriaeth bellach yn ei lle, byddwn ni’n ystyried sut y gallwn ni ddatblygu'r dechnoleg ar gyfer byd drama ond ar ben hynny ar gyfer digwyddiadau a chwaraeon byw.