Mae Clwstwr wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad sector newyddion a sgrin cynhwysol i Gymru, un sy'n adlewyrchu ein cymunedau ar ac oddi ar y sgrin.   

Mae gennym gyfrifoldeb fel corff cyllido i ddeall effaith ein gwaith ac a ydym ni wir yn gwella'r sefyllfa o ran mynediad teg at gronfeydd ymchwil a datblygu. Mae gennym gyfrifoldeb hefyd i rannu'r hyn a wyddom, a'r hyn nad ydym yn ei wybod.

Bydd y ddealltwriaeth rydym ni wedi'i chael o'r adroddiad yn ein helpu i ystyried y ffordd rydym ni'n gweithio, yn cefnogi ac yn cyfathrebu gyda'r sectorau rydym ni'n eu gwasanaethu. Fodd bynnag fe wyddom mai cipolwg yn unig yw hwn a bod mwy o waith i'w wneud. Ynghyd â'r data meintiol yn yr adroddiad, mae ein tîm yn siarad yn barhaus â phobl sydd â gwahanol brofiadau byw i'n helpu i ffurfio ein meddwl a'n gweithgaredd, gan ddefnyddio dull cynllunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr i ymchwilio, creu, profi ac addasu ein dulliau i adlewyrchu'r adborth a gafwyd. 

Fe wyddom fod llawer o bobl efallai’n teimlo nad yw ymchwil a datblygu yn rhywbeth iddyn nhw. Rydym ni am fwrw goleuni ar y gwaith hwn a helpu i oresgyn y rhwystrau y gallai rhai pobl eu hwynebu. Heb y lleisiau hynny, byddwn yn colli syniadau gwirioneddol arloesol a thrawsnewidiol fydd yn helpu i adeiladu sector cyfryngau moesegol a chynaliadwy yng Nghymru.

Dywedodd yr arweinydd cynhwysiant Sally Griffith: "Rydyn ni'n dal i fod yn gyllidwr cymharol newydd, ac rydyn ni wedi bod yn gwrando, yn dysgu ac yn gwneud newidiadau ar bob cam - a byddwn ni'n parhau i wneud hynny. Mae'n gyffrous ein bod yn cefnogi nifer cynyddol o brosiectau sy'n gweithio i wneud ein sector cyfryngau'n fwy hygyrch ac yn fwy ystyrlon i bobl sydd yn hanesyddol wedi'u gwasanaethu'n wael, heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae ein cyfryngau yn helpu i lunio'r ffordd rydyn ni'n gweld ein hunain a'r bobl o'n cwmpas ac felly mae’n hanfodol cael safbwyntiau amrywiol i arwain hynny. Felly mae llawer o'n prosiectau yn dechrau gyda syniad nad yw'r cyfryngau prif ffrwd yn gweithio iddyn nhw ac mae'n ysbrydoledig cael gweithio gyda nhw i ddechrau ar y newid sydd ei angen."

Lawrlwythwch yr adroddiad yma:

Awduron yr adroddiad ymchwil hwn:

Sally Griffith

Sally Griffith, Cynhyrchydd

Head shot of Laolu

Laolu Alatise, Swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith