Sector newyddion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol dros Gymru  

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn newid sut rydym yn nodi, yn casglu, yn rhannu ac yn ymgysylltu â newyddion er mwyn gwella ansawdd y broses casglu newyddion, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chreu cenedl fwy cynhwysol, gwybodus a chynaliadwy.

Rydym yn cefnogi ymchwil a datblygu sy'n wirioneddol arloesol a thrawsnewidiol, ac rydym yn ariannu datblygiadau arloesol sy'n datblygu genres gwybodaeth newydd gan ganolbwyntio ar ddata a thechnolegau neu lwyfannau newydd sy'n gwella'r model busnes ar gyfer newyddion er budd y cyhoedd.

I gefnogi'r gwaith hwn, rydym ni'n meithrin prosiectau cydweithredol gyda diwydiant, y byd academaidd a chymunedau i ysbrydoli ffrydiau Ymchwil a Datblygu unigryw, beiddgar a chynhwysol.     

Mae ein gwaith yn cefnogi gwerthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru. 

Ein nodau: 

  • Cefnogi'r gwaith o ymchwilio a datblygu ffyrdd arloesol a chynhwysol o weithio sy'n gwella'r model busnes ar gyfer newyddion er budd y cyhoedd.
  • Gwneud ein strwythurau a'n prosesau mor amrywiol a hygyrch â phosibl. 
  • Sefydlu partneriaethau a chydweithrediadau amrywiol a chynhwysol. 

Ein gweithgaredd: 

  • Rydym yn ariannu prosiectau ymchwil a datblygu arloesol sy'n canolbwyntio ar newyddion. 
  • Rydym am weithio gyda phobl o grwpiau difreintiedig a’r rhai mewn lleiafrifoedd.

Ein prosiectau sy'n canolbwyntio ar newyddion

Partneriaeth Her: Ystafell Newyddion y Bobl

The People's Newsroom graphic which reads in white and red: BUILDING COMMUNITY POWER THROUGH JOURNALISM | THE PEOPLE'S NEWSROOM INITIATIVEGan weithio gyda’r Swyddfa Newyddiaduraeth Ymchwiliol, Lleiafrifoedd Ethnig a Thîm Cymorth Ieuenctid Cymru (EYST) a Lankelly Chase, bydd y Bartneriaeth Her hon yn adeiladu pŵer cymunedol trwy newyddiaduraeth ac yn darparu piblinell newydd i berchnogaeth y cyfryngau trwy Fenter Ystafell Newyddion y Bobl.

Ymuno â'r glymblaid

Ein prosiectau sy'n canolbwyntio ar newyddion 

Rony Seamons AMPLYFI in greyscale

Deallusrwydd Artiffisial yn yr Ystafell Newyddion: Datblygodd AMPLYFI allu gwe ddofn a all roi mwy o eglurder i newyddiadurwyr, gwybodaeth fanylach am ffynonellau a chywirdeb uwch o ddata na dulliau ymchwil traddodiadol. 

Levi and Richard from Caerphilly Media

CaseFinder: Gwnaeth Caerphilly Observer waith ymchwil a datblygu o ran meddalwedd a fydd yn galluogi newyddiadurwyr i chwilio gwybodaeth am y llysoedd yn fwy effeithiol. 

Composite of Golwg team behind Fotio am Fory

Fotio am Fory: Gwnaeth Golwg waith ymchwil a  datblygu o ran adran democratiaeth gwefan newyddion Golwg360 gan dargedu pobl ifanc o 16 oed sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn benodol. 

Kids News - Hannah and Lewis Vaughan Jones

Newyddion i Blant: Nod Lewnah Ltd: yw creu lle digidol, hardd i blant ddefnyddio straeon newyddion, gan gyfuno technegau adrodd straeon creadigol, ffurf hir gyda chyfyngiadau amser cylch newyddion cyflym. 

Linus Harrison headshot

Mapped Out: Bu Linus Harrison yn archwilio sut y gellir creu a chyflwyno newyddion i gynulleidfa fwy niwroamrywiol. 

Shirish Kulkarni presenting workshop

Adrodd y Newyddion trwy Newyddiaduraeth Fodiwlaidd: Mae Shirish Kulkarni yn ymchwilio i dechnegau adrodd straeon newydd a dychmygus ac yn eu creu a’u profi er mwyn dychmygu sut y gellid cyflwyno newyddion i wahanol gynulleidfaoedd. 

Krystal Lowe and Adeola Dewis headshots

Bydd Cyflwyno Hunaniaethau Unigol yn arloesi'r ffordd yr ydym yn rhannu straeon. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod pob unigolyn yn cael profiad cyfoethog ac yn herio camsyniadau a gwybodaeth anghywir am ddiwylliannau lleiafrifol.

Schools News - Ceri Richmond and Nia Davies headshots

Newyddion Ysgolion: Datblygodd Core lwyfan i gynnig gwasanaeth newyddion rheolaidd i ddisgyblion o fewn oriau ysgol. 

Yvonne Murphy headshot

The Democracy Box: Archwiliodd Yvonne Murphy ffyrdd newydd o greu cyfranogiad democrataidd gyda phobl ifanc ac ar eu cyfer

Grace Quantock headshot

Trauma Toggle: Mae Grace Quantock yn ystyried sut y gallwn greu profiad o newyddion sy'n fwy seiliedig ar drawma. Bydd Trauma Toggle yn galluogi defnyddwyr i ditradu iaith a deunydd sy’n cynhyrfu yn eu defnydd o’r cyfryngau.

Voice Wales Seb headshot Voice Wales Faith headshotVoice Wales Photo AgencyGan ddatblygu talent o gefndiroedd amrywiol yng Nghymru, bydd ein hasiantaeth yn datblygu asiantaeth ffotograffau arloesol ar gyfer diwydiant newyddion Cymru.

Aelodau ein tîm sydd â diddordeb penodol mewn newyddion yw: 

  • Justin Lewis CyfarwyddwrClwstwr a Chyd-ymchwilydd
  • David Dunkley Gyimah, Cyd-ymchwilydd
  • Robin Moore, Tîm Rheoli
  • Sally Griffith, Cynhyrchydd Clwstwr

Ein partneriaid sydd â diddordeb penodol mewn newyddion yw: 

Caiff y prosiectau a ariennir eu cefnogi gan: 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gysylltu, uwchsgilio ac ysbrydoli'r garfan sy'n derbyn cyllid ac i egluro beth yw ymchwil a datblygu i ddarpar ymgeiswyr newydd. Dyma ein digwyddiadau sy’n ymwneud yn benodol â newyddion:

Arddangosfa arloesi: Ffyrdd newydd o wneud newyddion a gwybodaeth gyhoeddus

Cynhadledd Dyfodol Newyddiaduraeth, ar-lein - Medi 2021

Gyda’r Athro Justin Lewis yn cyflwyno, ymunodd arweinwyr prosiect Clwstwr Ymchwil a Datblygu ag ef i drafod Ffyrdd newydd o adrodd straeon newyddion (Shirish Kulkarni), Deallusrwydd Artiffisial yn yr ystafell newyddion (Lucy Young, AMPLYFI), Newyddion plant: (Hannah Vaughan Jones a Lewis), The Democracy Box (Yvonne Murphy)

Newyddion a Chamwybodaeth 

Ar-lein - Ebrill 2021  

Bu Clwstwr yn croesawu’r Athro Natalie Fenton, Cyd-Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Cyfryngau Byd-eang a Democratiaeth a’r academydd blaenllaw, i drafod camwybodaeth mewn newyddion.  Ymunwyd â hi gan Gyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Justin Lewis (link), i drafod enghreifftiau o sut mae camwybodaeth yn gweithio, o ble mae'n dod a sut y gallem ni wella dealltwriaeth ohoni ymhlith y cyhoedd.    

Wedi’i chyflwyno gan Sally Griffith, Cynhyrchydd Clwstwr, yn ystod y sesiwn hon trafodwyd: 

  • Y syniad o newyddion prif ffrwd ddiduedd 
  • Camliwio fel camwybodaeth a sut mae hyn yn bwydo rhagfarn 
  • Ailadrodd straeon newyddion - ac absenoldeb eraill  

Tuag at Sector Newyddion Cynhwysol

Ar-lein - Tachwedd 2020

Cymerodd arweinwyr prosiect Clwstwr, Shirish Kulkarni, Grace Quantock, Linus Harrison a chadeirydd y panel Francesa Sobande ran yn y sesiwn banel hon yng nghynhadledd Beyond. 

Sut y gallai technoleg a chwmnïau creadigol arloesi newyddion?

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Dinasoedd Digidol y BBC - Ebrill 2019

Credwn na fydd yr heriau mewn newyddion – newyddion ffug a gostyngiad o ran defnydd – yn cael eu datrys gan bobl mewn newyddion. Daethom â chwmnïau technoleg a chreadigol at ei gilydd i roi eu mewnwelediad a'u hoffer o'r fasnach at yr heriau hyn mewn ffyrdd newydd, arloesol. Yn ein cefnogi yn y digwyddiad hwn roedd Robin Moore, Pennaeth Arloesi BBC Cymru, a chafodd ei gyflwyno gan sefydliadau fel AMPLYFI.

Clwstwr Digital Cities in the School of Journalism, Media and Culture

Yr Heriau Mwyaf sy'n Wynebu Newyddiaduraeth a Rôl Arloesi. Claire Wardle, First Draft News

Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Dinasoedd Digidol y BBC - Mawrth 2020

Croesawyd Cynghorydd Rhyngwladol Clwstwr, Claire Wardle - Pennaeth First Draft News, i arwain sesiwn ar yr heriau sy'n wynebu newyddion heddiw ac ymunodd sefydliadau cyfryngau blaenllaw yng Nghymru â ni i drafod effaith gynyddol camwybodaeth/twyllwybodaeth/camhysbysu mewn newyddion.

The Biggest Challenges Facing Journalism event with Claire Wardle at School of Journalism, Media and Culture

Os hoffech chi fod yn rhan o'r gwaith hwn, cysylltwch â ni

Caiff y dudalen hon ei diweddaru mor rheolaidd â phosibl. Fe wyddom fod pethau'n symud yn gyflym, felly efallai y gwelwch ddolenni yma sydd wedi dyddio, ac iaith sydd angen ei diweddaru. Rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu eu dileu neu eu diweddaru. Os oes unrhyw un ar goll yma, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ein gorau i'w cynnwys. 

Os oes addasiadau rhesymol eraill y gallwn eu gwneud i wella'ch profiad o'r wefan, cysylltwch â ni

Sally Griffith yw'r arweinydd ar newyddion a chynhwysiant i Clwstwr

Sally Griffith

Sally Griffith, Cynhyrchydd