Mae cylch cyllido Clwstwr bellach ar gau.

Os oes gennych ymholiad am Clwstwr

ac am gysylltu â ni, 

ebostiwch: clwstwrcreadigol@cardiff.ac.uk

neu ffoniwch: 02922 511434.

 

Nodau Clwstwr

Nod Clwstwr yw i sector sgrin a newyddion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd trwy fuddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu i ddarparu arloesedd rhagorol.  

Caerdydd yw’r drydedd ganolfan gynhyrchu fwyaf ar gyfer ffilm a theledu yn y DU, gyda chyfoeth o dalent a rhwydweithiau. 

Rydym am fuddsoddi mewn pobl, cwmnïau a phrosiectau a all herio cystadleuwyr byd-eang o ran graddfa eu huchelgais ac arloesedd medrus.

Ein huchelgeisiau ar gyfer buddsoddi 

Rydym am anelu at gyflawni trawsnewidiadau gwirioneddol i'w busnes a'r sector cyfan. 

Rydym yn annog yn gryf geisiadau sy’n seiliedig ar gydweithrediadau a phartneriaethau, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar draws gwahanol is-sectorau, gan gydnabod bod gan feysydd fel ffilm, teledu, gemau a newyddion lawer i'w ddysgu gan sectorau eraill. 

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 

Yn rhy aml, mae buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu'n cylchdroi mewn rhwydweithiau nad ydyn nhw'n cynrychioli ein cymuned ehangach yn ei holl amrywiaeth cymdeithasol a diwylliannol.  Rydym am newid y patrwm hwnnw ac yn gweithio i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd strwythurol hwn yn ein sefydliad ac yn y sector yn ehangach. Mae ein cronfeydd ar agor i bawb, ond rydym ni'n arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl nad ydyn nhw yn hanesyddol wedi'u cynrychioli na'u cefnogi'n ddigonol yn y sector creadigol. Y gobaith yw parhau i ysbrydoli ymchwil a datblygu trawsnewidiol a chynhwysol fydd yn herio'r ffyrdd presennol o gynhyrchu a meddwl. Cewch ragor o wybodaeth yma.

Beth yw maint y cyllid y mae Clwstwr yn ei gynnig?   

Ceir tair ffrwd cyllido Clwstwr:

Sbarduno: hyd at £10,000 am Ymchwil a Datblygu sydd ar gam cynnar ar gyfer gwaith cwmpasu neu i ddatblygu prawf o gysyniad. Disgwyliwn i'r prosiectau hyn gael eu cwblhau o fewn tri mis. Yna gall y prosiectau hynny lle mae'r Ymchwil a Datblygu wedi dangos potensial sylweddol wneud cais am gyllid ar lefel prosiect. Fodd bynnag, i fod yn gymwys i gael cyllid ychwanegol, dylid cwblhau prosiectau sbarduno erbyn mis Hydref 2021. 

Cyllid prosiect: £10,000 i £50,000 ar gyfer Ymchwil a Datblygu i arwain at gynnyrch/gwasanaeth/profiad yn barod i’w fasnacheiddio. Ar ôl cwblhau eich cam Ymchwil a Datblygu, byddwn am weld tystiolaeth y byddwch yn barod i symud i'r cam cynhyrchu refeniw, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu neu gyflwyno eich cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd yn y dyfodol. Gall y prosiectau hyn bara am uchafswm o 12 mis (gan ddod i ben erbyn Mehefin 2022).  

Prosiectau trawsnewidiol: £50,000 i £100,000. Byddwn yn gwneud llai o ddyfarniadau ar y lefel hon – mae hyn ar gyfer prosiectau Ymchwil a Datblygu uchelgeisiol sydd â’r potensial i gael effaith drawsnewidiol: un ai ar  

  • sector y cyfryngau yn ei gyfanrwydd; 
  • twf eich busnes. 

Ar ôl cwblhau eich cam Ymchwil a Datblygu, byddwn am weld tystiolaeth gref y byddwch yn barod i symud i'r cam cynhyrchu refeniw, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu neu gyflwyno eich cynnyrch, gwasanaeth neu brofiad newydd yn y dyfodol.  Gall y prosiectau hyn bara am uchafswm o 12 mis (gan ddod i ben erbyn Mehefin 2022). 

Bydd angen lefel o arian cyfatebol gan ymgeiswyr i fodloni rheolau Cymorth Gwladwriaethol. Ystyrir hefyd fod lefelau da o arian cyfatebol yn dangos eich ymrwymiad i'r prosiect. Mae arian cyfatebol yn cynnwys cyfraniadau o fath arall, megis amser a weithir gan aelodau o dîm y prosiect neu adnoddau mewnol a neilltuwyd i'r prosiect. Mae'r lefel ofynnol sydd ei hangen yn cael ei phennu gan: 

  • natur 'gweithgareddau Ymchwil a Datblygu' y prosiect, e.e. astudiaeth ddichonoldeb, ymchwil y diwydiant neu ymchwil arbrofol, ac 
  • y math o sefydliad sy'n ymgeisio am arian, e.e. micro, BBaCh, mawr. 

Gweler ein tudalen cymhwysedd am fwy o wybodaeth.