Mae cyfle i ddysgu sgiliau gwyddorau data newydd drwy gynlluniau ysgol haf, swydd academaidd uwch newydd gyda chyrsiau Meistr a PhD ychwanegol fel rhan o bartneriaeth strategol newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Swyddfa'r Ystadegau Gwladol (ONS).

Cafodd y bartneriaeth strategol, y cyntaf o’i math i Brifysgol Caerdydd ei chyhoeddi yn ystod y Gwobrau Arloesedd ac Effaith a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r digwyddiad yn dathlu cydweithio llwyddiannus rhwng academyddion a busnes.

Bydd gan y bartneriaeth effaith ranbarthol ehangach, gan gynnwys ffocws ar ddata a gwyddorau data, rhywbeth sydd wedi’i flaenoriaethu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas Caerdydd. Mae Prifysgol Caerdydd a Swyddfa'r Ystadegau Gwladol wedi ymrwymo i ddefnyddio eu capasiti ar y cyd a’u harbenigedd i wella’r ecosystem ddata yn Ne-ddwyrain Cymru.

Mae’n adeiladu ar y blynyddoedd o gydweithio agos rhwng Prifysgol Caerdydd a Swyddfa'r Ystadegau Gwladol sydd eisoes wedi gweld Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn cymryd rhan mewn datblygu technegau gwyddorau data newydd sydd a’r nod o hysbysu penderfyniadau pwysig y llywodraeth. Mae gan y bartneriaeth newydd bwyslais gref ar ddatblygu sgiliau, llwybrau gyrfa academaidd a chreu cyfleoedd i raddedigion.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: Rwy’n yn falch o lansio’r bennod newydd yma yn ein perthynas gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn swyddogol. Tra bod cymaint o waith da wedi mynd ymlaen dros y blynyddoedd, mae ein partneriaeth strategol yn ein galluogi i fod yn sefydliad sy’n cynllunio ac yn cydweithio mewn modd mwy cydlynol a phenodol, gan gyflawni canlyniadau ac effeithiau mwy hirdymor.

“Mae gwyddorau data yn thema rwy’n yn edrych ymlaen at ei gweld yn datblygu drwy’r bartneriaeth. Bydd hyn yn cyfrannu at ddatblygiad yr arbenigedd a gallu cynyddol ym maes y gwyddorau data yn ne Cymru, gan gryfhau asedau data’r rhanbarth a datgloi eu potensial.”

Meddai John Pullinger, Ystadegydd Gwladol y DU:  “Rydym ni’n gweithio gyda phrifysgolion ar draws y DU i rannu arbenigedd ac i sicrhau ein bod yn gweithio gydag academyddion blaenllaw wrth greu dealltwriaeth ystadegol newydd ar faterion sy’n holl bwysig. Mae nifer o gysylltiadau agos gyda ni a Chaerdydd ac rydym yn edrych ymlaen i wella’r ffordd yn ydym yn gweithio gyda’r Brifysgol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddadansoddwyr a llunwyr polisi.

“Mae’r bartneriaeth yn creu’r potensial i gryfhau gwerth presenoldeb sylweddol Swyddfa’r Ystadegau Gwladol yn ne Cymru. Mae Casnewydd wedi ei sefydlu’n dda fel cartref i ystadegau economaidd y DU a chyda tua 2,000 o weithwyr yn ein swyddfa yno, ni yw un o gyflogwyr mwyaf yr ardal. Byddwn yn parhau i ddatblygu sgiliau ein pobl wrth i ni fanteisio ar bŵer data i helpu Prydain i wneud penderfyniadau gwell.”

Mae cwmpas y bartneriaeth pum-mlynedd yn parhau i esblygu dros amser, ond bydd yn cynnwys rhannu cyfleusterau, adnoddau ac arbenigedd, cyd-ddatblygu digwyddiadau a gweithgareddau i hyrwyddo defnydd data fel rhan o wneud penderfyniadau mewn polisi cyhoeddus, ac ymchwil cydweithredol newydd sy’n gwella dealltwriaeth ar bynciau megis heneiddio’n iach, deallusrwydd economaidd ac addysg a sgiliau.