Mae Andy Taylor yn edrych ar gysyniad Podlediadau Clyfar ar ôl ennill dyfarniad cyllid sbarduno drwy Labordy Syniadau Clwstwr ym mis Chwefror. Yma mae'n rhannu'r hyn mae wedi'i ddysgu yn ystod pedair wythnos gyntaf ei brosiect.

Dyma bum peth rwyf i wedi'u dysgu yn ystod mis cyntaf fy mhrosiect ymchwil a datblygu Clwstwr. Dyw'r cyfan ddim yn ymwneud â'r prosiect yn union, oherwydd digwyddiadau byd-eang diweddar..

1. Gall gweithio o bell fod yn WELL

Pan ddechreuodd y cyfnod clo, roedd rhaid i fi ailddyfeisio dau ddarn o waith a’u troi’n sesiynau o bell gyda Google Hangouts. Roedd rhywbeth ynghylch cael pawb yn yr un cwch, ynghyd ag anffurfioldeb bod yn ein cartrefi ein hunain (yn hytrach nag ystafell bwrdd ddienaid) yn gwneud y profiad yn wych. Cyflawnon ni fwy, cawson ni fwy o hwyl ac roedd yn haws meddwl mewn ffyrdd ffres. Rwyf i bellach yn gweld gweithio o bell yn gyfle creadigol i'r prosiect ymchwil a datblygu hwn, ac nid yn ffactor sy'n cyfyngu.

2. Heb Clwstwr, efallai na fyddai Bwlb yma.

Mae fy nghwmni, Bwlb, yn fach ac yn ifanc. Dyw e ddim yn ffitio'r patrwm ar gyfer unrhyw gymorth ariannol COVID-19 gan y llywodraeth. Felly, mae dechrau ar brosiect tri mis gyda chyllid sicr yn hanfodol. Hebddo, gallai Bwlb fod yn dod i ben cyn iddo gael cyfle i lwyddo o gwbl. Felly DIOLCH Clwstwr. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n cael cyfle i fynd i'r Labordy Syniadau. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i'n cael cyllid am brosiect tri mis. Ond dyma fi. Mae modd ei wneud. Ond mae'r hen ystrydeb fod rhaid i chi fod yn y ras i'w ennill yn wir. Mae gan Clwstwr ffenest Galwad Agored ar hyn o bryd, felly ewch amdani yma. 

3. Os gallwch chi, gwnewch rywbeth defnyddiol (neu eithaf defnyddiol)

Mae fy nheulu a fi'n mynd i'n heglwys leol yng Nghaerdydd a phan ddechreuodd y cyfnod clo, roeddwn i'n teimlo y byddai podlediad yn gweithio i'n cymuned ni felly cynigiais fy ngwasanaeth a daeth PodChurch i fod. Mewn adeg ansicr, mae gwneud rhywbeth cadarnhaol (a newydd) a allai helpu pobl eraill (neu sydd yn eithaf defnyddiol hyd yn oed) yn dda i bawb, ac i chi eich hun yn fwy na neb.

PodChurch

4. Mae'n wych pan fydd pobl dalentog yn cymryd diddordeb ynoch chi a'ch prosiect

Un o'r pethau gorau am weithio gyda Clwstwr yw'r ysbryd cydweithredol. Mae holl aelodau ein carfan yn dalentog iawn gyda phrosiectau hynod ddifyr. Rwyf i'n hapus iawn fod Yvonne Murphy wedi gofyn i fi gydweithio gyda hi ar ei phrosiect pwysig sy'n ennyn diddordeb etholwyr ifanc yng Nghymru.

Peth gwych arall am weithio gyda Clwstwr yw cefnogaeth gweithwyr proffesiynol ac academyddion sy'n gysylltiedig â'ch prosiect. Fy nhri meistr Jedi yw Gavin (Cynhyrchydd Clwstwr), Robin (swyddog gyda'r BBC) a Steve (Athro ym Met Caerdydd).

Helpodd Gavin fi i ddod o hyd i gydbwysedd rhwng dymuno siarad gyda phobl am fy mhrosiect a diogelu unrhyw IP gwreiddiol ynddo. Roeddwn i'n rhy ofalus a gochelgar ond ar ôl sgwrsio gyda Gavin penderfynais fod yn fwy cadarnhaol ac agored.

Helpodd Robin fi i sefydlu nod o wneud peilot ymarferol yn defnyddio'r dechnoleg orau oedd ar gael, atgyfnerthodd ddilysrwydd fy safbwynt fel perchennog microfusnes annibynnol a rhoddodd gyfle i fi adeiladu ar arbrofi tebyg a wnaed gan bobl eraill o fy mlaen.

Agorodd Steve fy meddwl i bosibiliadau ehangach. Mae gen i un swyddogaeth newydd posibl yn fy meddwl, beth am i ni daflu syniadau, breuddwydio a chwarae gyda rhai o'r mil o syniadau posib eraill (ac fel rhywun sydd bob amser yn rhedeg y sesiynau taflu syniadau, rwy'n methu aros i fod yn eistedd wrth y bwrdd rhithwir yn lle sefyll ac arwain). Mae rhywbeth ddywedodd Steve wedi aros gyda fi. "Mae pobl yn dweud celwydd." Mor syml, a ddim yn gwbl negyddol. Gofynnwch i bobl pam eu bod nhw'n gwneud rhywbeth, ac fe ddywedan nhw unrhyw beth. Felly cwestiynwch yr atebion. Byddwch yn chwilfrydig, chwiliwch am dystiolaeth arall a pheidiwch â derbyn popeth ar yr olwg gyntaf.

5. Mae gallu ymateb yn bŵer arbennig mewn Podlediadau

Ysgrifennodd Dan Misener erthygl wych am y cynnydd o ran galw a chyflenwi podlediadau ar thema coronafeirws dros yr wythnosau diwethaf.

Ei bwynt yw bod perthnasedd yn allweddol, ond dechreuais feddwl mai gallu ymateb yw un o bwerau arbennig Podlediadau. Roedd Dan yn meddwl am gynnwys, rwyf i'n meddwl am ddefnyddioldeb. Os ydych yn sownd mewn traffig, dychmygwch mor wych fyddai gallu ehangu eich hoff bodlediad fel ei fod yn gorffen wrth i chi gyrraedd adref. Os mai dim ond 15 munud sydd gennych chi, oni fyddai'n braf pe bai eich hoff bodlediad yn cywasgu i lawr i'r union hyd hwnnw?

Mae fy meddwl yn byrlymu, sef union yr hyn rwyf i am iddo wneud drwy gydol y prosiect hwn.

Gallwch ddarllen mwy am siwrnai Clwstwr Andy wrth iddi ddatblygu ar ei flog.