Mae Cyd-gyfarwyddwr Clwstwr, yr Athro Ruth McElroy, wedi gofyn i bedwar Cyd-Ymchwilydd Clwstwr rannu eu meddyliau ynghylch y rownd gyfredol o brosiectau Clwstwr, gan gynnwys y rhai a gynigiwyd i’n Galwad Agored am Fynegiannau o Ddiddordeb ym mis Mai 2020.  

Mae angen cydweithio i arloesi.  Anaml y bydd syniadau da yn ymddangos o ddim byd pan fydd un meddwl ar waith. 

RuthUn o ffynonellau cyfoethocaf ein hymdrech gyffredin yw ein tîm o Gyd-Ymchwilwyr Clwstwr, dwsin o staff sy’n dod o bob un o’r tair prifysgol sy’n bartneriaid.  Gydag arbenigedd mewn meysydd mor amrywiol â’r celfyddydau gweledol, cynhyrchu sgrîn, realiti rhithwir a thechnoleg gêmau, mae ein Cyd-Ymchwilwyr yn ychwanegu mewnwelediad ymchwil at brosiectau a ariannir gan Clwstwr, ac yn gweithio ochr yn ochr â Chynhyrchwyr Ymchwil a Datblygu Clwstwr er mwyn defnyddio’r cyfoeth o ddealltwriaeth ac adnoddau dynol a geir yn ein tair prifysgol.  

Mae mewnbwn Cyd-Ymchwilwyr ar brosiectau yn amrywio’n aruthrol - elfen o ffrind beirniadol, elfen o bryfociwr, elfen o gasglu persbectifau gwahanol er mwyn herio a dyfnhau ffyrdd o feddwl.  Rydyn ni yno i weithio gyda chi; i rannu beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r profiad Ymchwil a Datblygu gyda’n gilydd fel tîm, gydag academyddion yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, a hefyd gyda’n myfyrwyr sy’n gallu bod yn welyau profi ar gyfer cynnwys newydd a dyluniad defnyddwyr. 

Mae ein Cyd-Ymchwilwyr yn cynhyrchu cynnwys creadigol a deallusol - maen nhw’n ysgrifennu, yn creu, yn ymchwilio, ac yn cyhoeddi eu prosiectau eu hunain hefyd.  Mae ganddyn nhw eu hangerdd deallusol eu hunain.  O’r herwydd maen nhw’n aml yn gweld y prosiectau a gynigir i Clwstwr mewn ffordd wahanol, ac yn sylwi ar gysylltiadau ar draws y clwstwr y tu hwnt i unrhyw un prosiect neu gwmni unigol. 

Rwy’n gobeithio bod hyn yn rhoi blas i chi ar y clwstwr rydych chi’n rhan ohono, ac yn gyfle i chi samplo rhai o safbwyntiau tîm Cyd-Ymchwilwyr y Clwstwr.

Ingrid Murphy, Arweinydd Academaidd ar gyfer Pontio a Ffiniau yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ingrid

Mae darllen trwy Mynegiannau o Ddiddordeb (EOIs) y Clwstwr bob amser yn gyffrous, yn gyfoeth amrywiol o gynigion llawn dychymyg sy’n gallu gwneud i’ch meddwl rasio ar ôl posibiliadau a photensial prosiectau y gallwch chi ragweld y byddan nhw’n cael effaith amlwg ar y gymdeithas.  Mae’r broses hon wedi cael ei dwysáu ymhellach oherwydd yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu nawr yng nghyswllt COVID-19. Fel artist, ac addysgwr, rwy’n cael trafferth ar hyn o bryd yn newid cwricwlwm sy’n seiliedig i raddau helaeth ar ymarfer i fformat cyfun a chreu arteffactau ac arddangosfeydd ffisegol yn brofiadau mwy rhithiol neu ddiriaethol ar y sgrîn. Mae sawl mynegiant o ddiddordeb sy’n archwilio sut gall arloesedd, technoleg a chydweithio rhwng disgyblaethau ddarparu atebion i’r union heriau hyn, mae eu darllen yn teimlo fel rhoi eli optimistiaeth arglwyf sy’n tyfu! 

Tom Ware, Cyfarwyddwr Cynhyrchu a Pherfformiad yng Nghyfadran y Diwydiannau Creadigol, Prifysgol De Cymru

Tom

Fel un o Gyd-Ymchwilwyr y Clwstwr, mae wedi rhoi boddhad mawr i gefnogi datblygiad nifer o brosiectau sy’n gweithio ar y ffin rhwng diwydiannau sgrîn a thechnoleg gêmau. Mae ‘dylanwad gêmau’ ar ffilm a theledu wedi bod yn destun llawer o siarad ac ysgrifennu.  Ond mae wedi bod yn wefr wirioneddol cael bod yn rhan o ambell brosiect yng Nghaerdydd o’n rownd ariannu yn 2019 sy’n wir yn gwthio ffiniau sut gall y dechnoleg hon effeithio ar y broses o gynhyrchu ffilm a’i llywio.  Mae’n rhoi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ar flaen tueddiad ymhlith stiwdios mwyaf Hollywood a chwmnïau gêmau byd-eang. 

Mae technoleg newydd fel Painting Practice's Plan V - a ddyfeisiwyd ac a ddatblygwyd gan ddefnyddio arian Clwstwr gyda’n myfyrwyr Gêmau ym Mhrifysgol De Cymru - eisoes yn newid gwedd y dramâu teledu ar y brig, ond hefyd y ffordd o’u creu.  Mae bod yn rhan o’r datblygiad hwn a helpu’r cwmni i greu perthynas gyda’r cewri gêmau Epic Games wedi bod yn gyffrous ac yn ysbrydoliaeth, ac yn wir yn dangos sut gall pŵer ‘clwstwr creadigol’ weithio.   Pan deithiodd y tîm y tu ôl i Unreal Engine Epic i Brifysgol De Cymru Caerdydd ym mis Chwefror i arddangos Plan V i’r myfyrwyr a diwydiant, cawson ni gyfle hefyd i’w cyflwyno i nifer o brosiectau Ymchwil a Datblygu eraill sy’n cael eu hariannu gan y Clwstwr ac yn defnyddio’u technoleg, gan gynnwys y cwmni animeiddio Cloth Cat. O ganlyniad, fe aethon nhw i ffwrdd gan gredu y gallai Caerdydd fod yn ganolfan ar gyfer cydweithio pellach yn y dyfodol - ac yn awyddus i fuddsoddi eu harian datblygu eu hunain yn y rhanbarth.

Mae’n gyffrous gweld sut gall syniadau fel y rhain gael eu gwireddu trwy gydweithio.  Ond mwy cyffrous fyth yw gweld sut mae datblygu’r prosiectau hyn yn helpu i ddangos creadigrwydd a’r potensial i gydweithio yn y dyfodol, ar draws yr holl glwstwr creadigol.  Trwy gefnogi a rhannu’r llwyddiant hwn trwy’r Clwstwr, gallwn ni ganolbwyntio cefnogaeth a buddsoddiad rhyngwladol er mwyn datblygu, ymgysylltu a hybu doniau newydd a syniadau newydd o’n rhanbarth i sbarduno arloesedd ar draws y byd.

Dr David Dunkley Gyimah, uwch-ddarlithydd mewn Newyddiaduraeth yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd

David

Mae dyfodolwyr yn dibynnu ar arsylwi patrymau, tyfiant newydd syniadau sy’n digwydd fwy nag unwaith, ymhlith ffactorau eraill, ac yna dadansoddi tueddiadau, gan holi beth petai?

Data a hap-samplu anghenion technegol pobl sy’n darparu’r is-haen.  Mewn blynyddoedd diweddar mae wedi cwmpasu sbectrwm digidol eang, megis arloesedd ym maes fideo, podlediadau, cipio symudiadau, Realiti Rhithwir a Deallusrwydd Artiffisial.  Beth gallai dyfodolwyr ei ddweud ynghylch yr hyn mae creadigwyr wedi bod yn ei gynnig yn annibynnol ar gyfer prosiectau a gomisiynwyd? 

Mae’r naws wedi dwysáu yn achos ffurfiau newydd o adrodd storïau, gwahanol naratifau ac adrodd storïau trochol mewn gofodau digidol, wedi’u cyfuno â chwarae gêmau difrifol (dylanwad gêmau).  Mae archwiliad parhaus yr awdur Richard King o hunaniaeth Gymreig yn ceisio cipio’r rhain i gyd.  Mae ei weithiau diweddar yn The Lark Ascending Barbican show — traethawd a lapiwyd o amgylch cymeriadau a thirlun byw - yn ein hatgoffa nad mater o addasu technolegol yn unig yw’r trochol, ond barddoneg iaith. 

Mae’r cyfarwyddwr theatr nodedig  Yvonne Murphy yn canfod ac yn curadu pobl ifanc sy’n siarad am wleidyddiaeth.  Gellid tybio bod sut mae cysylltu â’ch AS neu AC yn dasg ddigon hawdd i’w chyflawni, ond pan nad oes canllaw syml ar gael eisoes, a phan fo modd cyflawni hynny trwy TikTok, mae creadigrwydd o’r fath yn tynnu sylw rhywun.  Dyw rap mewn gwleidyddiaeth ddim yn beth newydd, ond mae Yvonne yn canfod ffresni ymhlith ei charfan o bobl ifanc 16-30 oed sy’n mynegi gwleidyddiaeth mewn gwahanol ffyrdd.

Wrth herio’r status quo, mae’r newyddiadurwr Shirish Kulkarni wedi bod yn ymchwilio i sut gallai newyddion esblygu’n rhywbeth mwy affeithiol yn yr 21ain ganrif - pwnc sydd yr un mor agos at fy nghalon. 

Bydd Shirish yn siarad am ei brosiect a'r camau cyntaf yn ei siwrne ymchil a datblygu adrodd straeon drwy newyddiaduraeth fodiwlaidd. Mwy am y digwyddiad.

Rich Hurford, Arweinydd Cwrs MA Menter Gêmau ym Mhrifysgol De Cymru

I mi mae dwy thema gref wedi dod i’r amlwg o alwad Clwstwr yn 2019 ac EOIs rownd 2020. 

Yn gyntaf, mae adrodd storïau a thechnolegau trochol yn faes ffocws cyffredin.  Mae’r rhain yn cwmpasu adloniant, cynnwys addysgol a difrifol, y cyfan yn archwilio’r ffordd orau o gynrychioli’r cynnwys amrywiol ar blatfformau newydd, er mwyn creu profiadau dyfnach a rhai sy’n ymgysylltu’n fwy â gwylwyr/defnyddwyr, sy’n cynnwys gêmau ar gyfer ymwybyddiaeth/hyfforddiant iechyd meddwl, adrodd storïau hybrid, defnyddio VR i leddfu poen, technoleg drochol fel rhan o berfformiad byw a systemau dogfennol, ffilm ac adrodd stori rhyngweithiol.   

Mae agweddau blaengar y thema hon yn cael sylw hefyd gan Tiny Rebel Games, Sugar Creative, Potato, Aardman Animations a Phrifysgol De Cymru yn rhaglen Arddangoswr Cynulleidfa’r Dyfodol, sy’n cael ei hariannu gan UKRI.  Mae eu prosiect yn fenter mewn adrodd storïau estynedig, gan gyfuno elfennau digidol a byd go iawn.

Yn ail, mae nifer o brosiectau Clwstwr wedi archwilio cynhyrchu rhithwir mewn ffilm a theledu, gyda phŵer technolegau gêmau.  Mae sawl prosiect wedi archwilio sut mae defnyddio technoleg gêmau er mwyn gwella sut cynhyrchir ffilmiau a theledu. Mae’r rhain yn amrywio o biblinellau amser go iawn ar gyfer animeiddio 3D, VFX amser go iawn ar y set, defnyddio offer VR ar gyfer pre-vis a defnyddio sain ambisonig (360°). Mae gan bob un o‘r rhain botensial o safbwynt gwella’r broses o greu ffilm a theledu.

Gallwch ddarllen mwy gan Rich am y gwrthdaro rhwng ffilm, teledu a gêmau yn ei flog Clwstwr, yma