Arweiniwyd Clwstwr gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Bu’r Clwstwr yn symudiad nodedig i'r tair prifysgol bartner. Mae gan bob un gryfderau penodol ym meysydd hyfforddi, ymchwil ac ymgysylltu â'r diwydiannau creadigol.

Gyda'i gilydd maen nhw'n addysgu yn agos i 5000 o raddedigion yn y diwydiannau creadigol bob blwyddyn, gan gynnig graddau creadigol sylfaen, BA ac MA (e.e. ffilm, busnes cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio, dylunio, cynhyrchu cyfryngau) ac amrywiaeth o sgiliau arbenigol fel: animeiddio, effeithiau gweledol, gemau fideo, newyddiaduraeth gyfrifiadurol, dylunio'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, dylunio cynnyrch a datblygu technoleg ddigidol a symudol.

Mae gan y tri sefydliad ganolfannau rhagoriaeth sy'n dod ag arbenigedd ategol i'r clwstwr:

Mae gan Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd enw da byd-eang am ei hymchwil a'i hyfforddiant yn y diwydiant. Mae'n gartref i Caerdydd Creadigol, sydd wedi creu rhwydwaith yn y diwydiant sy'n tyfu'n gyflym, gan ddod â diwydiant ac academyddion at ei gilydd ar gyfres o fentrau. 

Mae gan Brifysgol De Cymru (PDC) mwy na 27,000 o fyfyrwyr mewn campysau yng Nghaerdydd, Casnewydd ac yng nghymoedd De Cymru. Yr adran Diwydiannau Creadigol yng Nghaerdydd yw’r mwyaf o’i fath yng Nghymru sy’n dysgu pynciau sy’n amrywio o ffasiwn i gerddoriaeth a pherfformio, animeiddio a chyfryngau. Mae’r adran hefyd yn gartref i Ysgol Ffilm a Theledu Cymru, sy’n darganfod, yn addysgu a meithrin y genhedlaeth nesaf o gynhyrchu.

Mae Prifysgol  Metropolitan Caerdydd yn gartref i PDR, canolfan ymchwil a datblygu'n seiliedig ar ddylunio, ynghyd ag Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd. Mae'n dod ag addysg celf a dylunio, ymchwil a datblygu cymwysedig ac ymgynghoriaeth dylunio masnachol at ei gilydd.

Mae’r Clwstwr wedi dod â holl brif ddarlledwyr Cymru, gan gynnwys BBC Cymru Wales, S4C ac ITV Cymru ynghyd â chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu annibynnol, cwmnïau cenedlaethol a chyrff creadigol Cymru, mannau cydweithio creadigol, cwmnïau technegol newydd, asiantaethau strategol gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, awdurdodau lleol gan gynnwys Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru at ei gilydd.