Mae gan y diwydiannau creadigol ran allweddol yn y gwaith o ddatblygu economi Cymru.

Nod yr adroddiad yw dechrau mapio cryfder cyffredinol y diwydiannau creadigol yng Nghymru fel y gallwn ddechrau adrodd stori cenedl greadigol a chlwstwr cyfryngau pwysig ac sy’n datblygu yn ei phrifddinas. 

Nid yn unig y mae’r diwydiannau creadigol yn golofn bwysig ar gyfer twf economaidd ac yn ffordd o ad-drefnu’r economi leol, ond maent hefyd yn adrodd stori’r genedl, gan gynrychioli a hyrwyddo diwylliant Cymru, talent Cymru a’r iaith Gymraeg.

Rydym wedi amcangyfrif bod mwy nag 8,000 o fentrau gweithredol ac 80,000 o bobl yn gweithio yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Creative industry sizes in Wales

Dominyddir yr economi byd-eang gan gwmnïau cyfryngau a thechnoleg mawr a hynod integredig (e.e. Disney, Amazon, Comcast). Ar yr un pryd, mae 98% o fentrau yn niwydiannau creadigol yn fusnesau bach iawn. Bydd angen mathau penodol o gymorth arnynt er mwyn iddynt ffynnu mewn marchnad fyd-eang gystadleuol.

Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr y Clwstwr:

Bydd angen gwneud mwy er mwyn symud diwydiannau creadigol Cymru oddi ar y map cenedlaethol i’r map rhyngwladol.

Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn yma:

Casglwyd y data ar gyfer yr adroddiad hwn cyn pandemig COVID-19. Mae’n cyfleu darlun o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru cyn ansicrwydd COVID-19, sydd wedi cael effaith fawr ar lawer o fusnesau a gweithwyr llawrydd creadigol, y mae llawer ohonynt yn wynebu colledion sylweddol mewn refeniw. Mae’r adroddiad hwn yn darparu llinell sylfaen a fydd yn ein galluogi i gynnal asesiadau manwl yn y dyfodol o effaith COVID-19 ar y diwydiannau creadigol yn y tymor canolig a’r tymor hwy.

Awduron yr adroddiad ymchwil hwn: 

Marlen Komorowski

Dr Marlen Komorowski, Dadansoddydd Effaith

Professor Justin Lewis

Yr Athro Justin Lewis, Cyfarwyddwr